Ar nos Iau, cafodd cerrig eu taflu o bob cyfeiriad ac
fe dorrwyd nifer o ffenestri. Cafodd carreg fawr ei thaflu
trwy ffenestr siop Mr Gwilym Evans, y groser, Cardiff Road.
Cafodd pedwar aderyn gwerthfawr, oedd wedi ennill gwobrau,
eu dwyn o un o'r tai mas yn Belmont Terrace.
Roedd terfysgoedd difrifol ar nos y Fawrth. Trodd y streicwyr
eu sylw ar olchfeydd y pyllau glo sy'n eiddo i gwmni
Powell Duffryn. Rhagwelodd neb bod unrhywbeth chwithig
yn mynd i ddigwydd yn yr ardal er gwaetha'r ffaith bod
y ddadl ar fin hoelio sylw'r Bwrdd Cymodi'r Diwydiant
Glo. O ganlyniad felly, roedd y terfysgoedd yn annisgwyl,
a lledodd y newyddion yn gyflym iawn ar draws yr ardal
bod pobl yn ymosod ar olchfa'r pwll glo.
Ymgasglodd 200 i 300 o bobl y tu allan i Sefydliad Aberaman,
a gorymdeithio fel un corff i ganol yr anghydfod, rhwng
Cwm-bach ac Aberaman, rhyw filltir a hanner o Aberdâr.
Roedd cannoedd o fenywod yn cydgerdded â'r streicwyr. Pan oedden nhw
o fewn ychydig gannoedd o lathenni i'r olchfa, fe anfonon nhw rhyw 200 o lanciau
ifanc o'u blaenau i wthio ffin yr olchfa, ond cafon nhw'u chwalu gan yr heddlu.
Roedd tua 30 o blismyn yn gwarchod yr olchfa, ond doedden nhw ddim wedi rhagweld
trafferthion difrifol, ac ar yr adeg cyrhaeddodd y 200 o ddynion ifanc roedd
cyfran o'r plismyn yn cael te. Serch hynny, cawson nhw'u galw ar unwaith, ac
yn y man, roedden nhw wyneb yn wyneb â 2,000 o streicwyr, nifer ohonyn
nhw wedi'u harfogi â ffyn ag arfau eraill.
Ymdrefnodd yr heddlu yn rheng o flaen i'r pwerdy a'r adeiladau
eraill, ond yn fuan iawn roedden nhw'n wrthrych protest
elyniaethus, a chafodd pob math o bethau'u hyrddio atyn
nhw, heb unrhyw ystyriaeth i fywyd, corff ac eiddo.
Dringodd y streicwyr dros ffens, ac am ba reswm does ond
modd tybio beth oedd, dyma nhw'n rhoi'r gwellt a oedd
yn cael ei gadw mewn wagen drên ar dân.
Yn fuan roedd tân mawr, ond cafodd y tân ei ddiffodd yn gyflym
iawn, er iddo fudlosgi am oriau wedi hynny.
Chiwstrellodd y plismyn bibell ddwr ar y streicwyr, ond
oherwydd na chafodd hyn ddim llawer o effaith arnyn nhw,
bu rhaid i'r plismyn roi'r gorau iddi hi. Hyrddiodd y
dorf gerrig yn ddibaid at y plismyn unwaith eto a chafodd
sawl un ei glwyfo, Rees - Arolygydd yr Heddlu, Llan-daf;
Y Rhingyll-Griffiths, Dociau'r Barri: a chafodd dau heddwas
arall eu clwyfo'n ddifrifol, y cyntaf yn enwedig, a gafodd
archoll cas ar ei wyneb.
O weld bod y protestwyr mewn hwyliau ciaidd, roedd rhaid i'r plismyn ddefnyddio
rhagor o rym, a chawson nhw'u gorfodi i rhuthro at y dorf â phastynnau
noeth.
Profodd y dull yma'n llwyddiannus, a gwasgarodd y dorf
i bob cyfeiriad, gyda channoedd yn rhedeg ar hyd y rheilffordd
ac i lawr hyd lan y gamlas.
Gwelwyd ddigwyddiadau hynod ar lan y gamlas. O ganlyniad
i'r rhuthr cafodd sawl un ei wthio i mewn i'r gamlas,
ond fe lwyddon nhw i ddringo nôl
i'r lan. Mae'n cael ei ddweud bod tua 60 o streicwyr wedi'u hanafu. Llosgodd
un dyn ei law yn ddifrifol o wael ar wifren drydan fyw, a thorrodd dyn arall
ei goes. Roedd y mwyafrif o'r anafiadau eraill yn anafiadau difrifol i'r pen.
Cafodd gohebydd a gafodd ei gymryd i fod yn 'fradwr' trwy
gamgymeriad ei fwrw ar ei ben a'i benelin â cherrig a ffyn.