Roedd map y Degwm ar gyfer Abercwmbói (1847) yn dangos ardal wledig
gyda dim ond tri thy ynddi, sef Penrhiw Anghan, Abercwmboy Ucha a Blaencwmboy.
Serch hynny, erbyn 1868 roedd map cyntaf Arolwg Ordnans yn rhoi darlun
gwahanol iawn gan ddangos nifer o strydoedd hawdd i'w hadnabod gan gynnwys
John Street, Jenkin Street, Richards Street, Margaret Street a William
Street.
Dechreuodd y datblygiad syfrdanol yma
ychydig i'r de o ganlyniad i agor Glofa Abercwmbói.
Fel y digwyddai mewn pentrefi eraill yng Ngwm Cynon
glofa oedd y sbardun ar gyfer twf aruthrol y pentref
modern sydd gyda ni heddiw. Fe gafodd tai eu codi i
gartrefi'r mewnlifiad o bobl a oedd yn dod i weithio
yn y pwll glo a chafodd cyfleusterau cyhoeddus eu sefyldu
i ddiwallu anghenion y bobl hynny.
Ar y chwith: Un o'r siopau cynharaf
i agor yn Abercwmbói a oedd yn rhan o'r siop
bob peth gan roi'r cyfle i bobl brynu bron popeth
oedd eu hangen arnyn nhw.
Mae enwau rhai o'r adeiladau cynharaf
megis Tafarn The Cap-coch, a gafodd ei adeiladu yn
1865 ac Ysgol Cap-coch, a gafodd ei hadeiladu yn 1868,
yn dwyn hen enw'r pentref. Yn ôl y chwedl leol,
tarddodd yr enw Cap-coch yn sîl arfer tafarnwr
lleol a oedd yn arfer gwisgo cap coch yn ystod ymrysonfeydd
ymladd ceiliogod.
Ar y dde: Tafarn y Cap-coch
Cafodd addoldai eu sefydlu yn ogystal.
Ymhlith y rhai cynharaf oedd Capel Bethesda'r Bedyddwyr
a gafodd ei adeiladu yn 1864. Doedd dim lle i addoli
gan yr eglwys sefydledig nes i eglwys Sant Pedr gael
ei hadeiladu o haearn oddeutu 1918. Roedd Neuadd ac
Institiwt y Gweithwyr yn Abercwmbói, adeilad
deulawr a gafodd ei adeiladu yn 1913, yn ganolbwynt
i'r pentref ar y pryd.
Ar y chwith: Yr hyn sy'n weddill
o hen adeilad Ysgol Cap-coch.
Y Diwydiant Glo yn
Abercwmbói
David
Davies oedd y dyn a ddaeth â'r diwydiant
glo i Abercwmbói am y tro cyntaf. Ei gam
cyntaf ym myd busnes oedd agor siop fwydydd yn
Hirwaun, cyn symud i'r byd diwydiannol pan oedd
ei deulu'n ddigon hen i redeg y siop. Ar ôl
menter lwyddiannus ym Mlaen-gwawr, trodd ei olygon
at Abercwmbói ac agorodd e bwll glo newydd
yno yn 1851. Roedd y lofa yma (o'r enw Glofa Cap-coch)
yn llwyddiannus iawn gan gynhyrchu dros 90,000
o dunelli o lo yn 1869. Yn 1881, aeth y lofa i
ddwylo Cwmni Glo Ager Powell
Duffryn. Fe unodd
y lofa â Glofa Aberaman yn 1923. Roedd glofa
Abercwmboi'n parhau i weithio yn waith pwmpio hyd
at 1970 pan gafodd eu gau gan y Bwrdd Glo a oedd
wedi dod yn berchnonog arno yn sgîl gwladoli'r
diwydiant glo yn 1947.
Roedd Cwmni Glo Ager Powell Dyffryn yn gweithio lefel yn ardal Abercwmbói
yn ogystal. Lefel y clai roedd pobl yn ei galw hi. Agorodd y pwll clai
yma (sydd fel arfer i'w weld rhwng haenau o lo) yn 1882 ar gyfer y gwaith
pibau yn Aberaman (Kwik Save sydd ar y safle heddiw), ac hefyd ar gyfer
gwneud glo golosg.
Gwaith Phurnacite
Mae modd olrhain hanes y Gwaith ar gyfer cynhyrchu brics glo Phurnacite
yn Abercwmbói yn ôl i 1939 pan ddechreuodd cwmni Powell
Duffryn Limited gynhyrchu brics glo allan o lo stêm gwastraff a
oedd yn ddarnau rhy fach i'w gwerthu. Câi'r glo man ei falu, ei
sychu a'i gymysgu gyda sylwedd ddu gludiog (pitch) gan ddefnyddio proses
o gynhesu i gael gwared ar y mwg. Roedd hi'n 1942 ar y gwaith yn gweithredu
yn llawn. Erbyn 1951-1952 cawsai'r gwaith ei ehangu, ac, ar ei anterth,
roedd e'n cynhyrchu dros filiwn o dwnelli o frics glo y flwyddyn.
Erbyn canol y 1970au, newidiodd yr hinsawdd
er gwaeth. Roedd llaio bobl yn defnyddio tanwydd ffosiledig
a nifer y cwynion am lygredd gan drigolion lleol ar
gynnydd roedd dyfodol y gwaith yn ansicr iawn. Yn hwyr
ym 1979 cafodd cynlluniau arfaethedig ar gyfer moderneiddio'r
gwaith eu cyflwyno ar gyfer proses MHT (Mild Heat Treatment)
a fyddai, yn ôl y gred, yn gostwng nifer yr â'i
gilydd sawl gwaith i drafod y cynlluniau ond methon
nhw â chanfod unrhyw dir cyffredin ar gyfer cytundeb.
Fuodd dyfyniadau, megis Britain's Dirtiest Factory" yn
y wasg o ddim cymorth i leddfu gofidiau'r bobl.
Ar y chwith: Gwaith Phurnacite
Erbyn y 1980au hwyr cafodd caniatâd i'r perchnogion i godi ffatri
newydd ei wrthod. Y rheswm am hynny oedd bod diffyg buddsoddi o du'r Llywdoraeth
a daeth y penderfyniad i gau'r gwaith yn gyfangwbl. Fe gwynodd llawer o
bobl am y penderfyniad hwnnw. Roedd gyda'r gwaith dros 1000 o weithwyr
ac o ystyried bod dros 10% o drigolion Cwm Cynon heb waith ar y pryd, doedd
e ddim yn benderfyniad poblogaidd iawn. Yn gyffredinol roedd trigolion
Cwm Cynon yn teimlo rhyddhad o wybod bod y gwaith a achosodd gymaint o
lygredd ac afiechyd i bobl wedi cau am byth.
Fe gynhaliodd y papur lleol, Cynon Leader, gystadleuaeth
o'r enw "chwythu'r simne". Gwasgodd yr enillydd Tanya
Jenkins o'r Meisgyn y botwm i gynnau'r ffrwydron ar
waleod y 4 simne. Roedd y cwbl drosodd ymhen eiliadau
gan gau pennod hir yn hanes y cwm.
Mae gwaddod y gwaith Phurnacite a llygru'r
tir ynghyd â'r cyflenwad dwr i'w gweld hyd y
dydd heddiw yn enwedig rhwng Abercwmbói ac Aberpennar.
Yn eu hadroddiad "Phurnacite Toxic Legacy" a gyhoeddwyd
ym mis Medi 1997, mae Byron Lewis a Max Willis, Cymdeithas
Cyfeillion y Ddaear, yn trafod yr anawsterau o unioni
cyflwr yr amgylchfyd yn sgîl niwed y llygredd.
Ar y chwith: Coed sydd wedi'u
gwenwyno oherwydd y llygredd a'r gwaith Phurnacite
yn y cefndir.