Cafodd Deddf Camlas Aberdâr ei
phasio ym 1793 i greu cwmni gyda'r hawl i adeiladu
camlas o Aberdâr i lawr i'r Navigation , Abercynon.
Yn y fan honno byddai'r gamlas newydd yn ymuno â Chamlas
Morgannwg, a redai o Ferthyr Tudful i lawr i Gaerdydd.
Yn ogystal â hynnny byddai hawl gyda'r cwmni
i adeiladu tramffordd i derfynfa Camlas Castell-nedd,
ger Glyn-nedd.
Ond fe arhosodd Cwmni Camlas Aberdâr 16 o
flynyddoedd cyn adeiladu camlas o gwbl. Gwaith Haearn
Hirwaun oedd yr unig fenter ddiwydiannol yng Nghwm
Cynon yr adeg honno. Fyddai'r busnes o un gwaith
haearn ddim wedi bod yn ddigon i gadw camlas i fynd.
Am y tro, agorodd y Cwmni chwarel calch ym Mhenderyn,
gyda thramffordd i'w chysylltu â Gwaith Haearn
Hirwaun.
Chwith:
Cyffordd Camlas Aberdâr â Chamlas
Morgannwg a'r Navigation , Abercynon, ym 1868.
Erbyn 1806 roedd dau waith haearn arall
wedi'u hagor, yn Llwytcoed ac Aber-nant. Penderfynodd
Cwmni Camlas Aberdâr fod yr amser wedi dod i
wneud y gorau o dwf diwydiant yn yr ardal, ac adeiladu
camlas. Fe wnaethon nhw'r gwaith tirmesur ym 1801,
ac erbyn mis Mai 1812 roedd y Gamlas ar agor! Ar bwys
T y Draw roedd pen y gamlas, lle'r adeiladodd y Cwmni
bedair blanfa, bob un 80 troedfedd o hyd. 7 milltir
oedd hyd y Gamlas, gyda 18 o bontydd drosti. Dim ond
13 o droedfeddi roedd y Gamlas yn disgyn o'i chychwyn
i ben y gamlas: dyna pam fod angen dau loc yn unig.
Roedd y lloc uwch yng Nghwm-bach, ar bwys lle mae'r
Duffryn Arms heddiw. Ychydig i'r gogledd o Aberpennar
roedd y loc arall. Roedd cyflenwad d w r y gamlas yn
dod o ffos borthi yn rhedeg o Afon Cynon i lawr i ben
y gamlas.
Un o
lanfeydd pen y gamlas. Ychydig flynyddoedd ar ôl i Gamlas Aberdâr
gau ym 1900, roedd y chwyn eisoes yn tagu'r gamlas.
Rhyw 3 neu 4 o oriau oedd amser y daith o ben y gamlas i'r gyffordd â Chamlas
Morgannwg yn Abercynon. Mewn egwyddor, byddai modd teithio o Aberdâr
i Gaerdydd ac yn ôl cyn pen 30 o oriau. Ond roedd llawer o w y r
y badau yn arfer aros dros nos yn Nantgarw, a chan hynny roedd hi'n fwy
arferol i wneud dwy daith i Gaerdydd ac yn ôl mewn wythnos. Gwaetha'r
modd, bu cwymp yn y fasnach haearn yr union adeg yr agorodd y gamlas. Peidiodd
y tri gwaith haearn â gwneud haearn, ac erbyn mis Gorffennaf 1814
doedd dim digon o fusnes i gadw'r Gamlas i fynd. Doedd neb yn ei defnyddio
o gwbl rhwng 1815 a 1818, a bu raid aros tan 1819 i'r fasnach haearn ddechrau
ffynnu eto. Pan brynodd William Crawshay II Waith Haearn Hirwaun ym 1819,
aeth ati i gael gafael ar y rhwydwaith trafnidiaeth i'r Hirwaun hefyd.
Erbyn 1826, roedd e wedi prynu 96 o gyfranddaliadau yng Nghwmni Camlas
Aberdâr. Ei lais e bellach oedd y cryfa yn y Cwmni. Yn ystod y 1820au
a'r 1830au, roedd y fasnach haearn yn rhoi digon o fusnes i'r Gamlas i'r
cyfranddalwyr wneud rhywfaint o elw'n gyson.
Glofa Middle Duffryn
a Chamlas Aberdâr tua 1910
Erbyn diwedd roedd
ffynhonnell newydd o fusnes yn dod i'r amlwg ym mhen
uchaf Cwm Cynon. Ym 1837, fe agorodd Matthew Wayne
a'i fab Thomas Waynes lofa Abernant-y-Groes yng Nghwm-bach,
a dyna oedd cychwyn trawsnewid hanes y Gamlas, y cwm,
a'r De i gyd. Dyma'r lofa gynta gafodd ei hagor i fanteisio
ar yr elw i'w wneud o allforio glo Aberdâr. Cyn
pen ychydig flynyddoedd roedd nifer o lofeydd wedi
agor yn agos i'r Gamlas, gan gynnwys Middle Duffryn
(1843), Upper Duffryn (1840), a Blaengwawr (1843).
Cyfnod ffyniannus iawn i'r Gamlas oedd y 30 o flynyddoedd
nesa. Yn ogystal â'r incwm cyson o Waith Haearn
Hirwaun, roedd y cwmni'n elwa o gynnydd cyson y diwydiant
glo.
Dyna pam roedd y Gamlas mor hynod ffyniannus yn ystod y 1840au a'r 1850au,
er bod y rheilffyrdd yn dechrau ymestyn i fyny'r Cwm. Agorodd Rheilffordd
Dyffryn Taf ym 1846, a Rheilffordd Cwm Nedd ym 1851. Ond, yn y pen draw,
doedd dim modd i'r Gamlas oroesi yn wyneb cystadleuaeth y rheilffyrdd.
Collodd y gamlas ei busnes craidd pan aeth y diwydiant haearn i'r wal
ym 1875, ac erbyn yr adeg honno roedd y glofeydd yn anfon eu glo allan
ar y rheilffyrdd. Roedd y Gamlas yn dal i gludo cynnyrch amaethyddol
a deunyddiau adeiladu, ond bach iawn o fusnes oedd hynny. Prin y gallai'r
Gamlas ennill digon o arian i dalu costau'i gweithredu. Ac erbyn diwedd
y 1870au, roedd y tir o dan y Gamlas yn dechrau suddo mewn mannau lle'r
oedd y pyllau glo'n ymestyn o dan y ddaear.
Prynodd Ardalydd Bute Gamlas Aberdâr
a Chamlas Morgannwg ym 1884, a buddsoddi arian mawr
ynddyn nhw. Ond doedd dim elw i'w gael ohonyn nhw,
a dal i waethygu roedd yr ymsuddiant oherdwydd gwaith
cloddio'r pyllau glo. Fe godai costau cynnal a chadw
o hyd, ac ym 1900 roedd rhaid cau Camlas Aberdâr
er mwyn diogelwch y cyhoedd.
Aeth Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr a Chyngor
Dosbarth Aberpennar ar y cyd i brynu'r hen Gamlas
ym 1923. Gwely'r Gamlas oedd sail llwybr yr A4049,
y brif ffordd i fyny Cwm Cynon. Does dim ar ôl
o'r Gamlas heddiw ond darn bach ar bwys Canal Head
House - ac, wrth, gwrs, y t y 'i hun.
Chwalu Pont Camlas y Ffrwd, Aberpennar,
yn ystod llenwi'r Gamlas ac adeiladu'r ffordd newydd,
tua 1924