Pentre bach oedd Aberdâr, yn ôl y cyfeiriadau
cynta yn y 12f ed ganrif. Datblygodd tref fodern Aberdâr
tua chanol y 19 eg ganrif. Roedd llawer mwy o bobl
oherwydd twf y diwydiannau trwm, a daethon nhw yma
i fyw a gweithio. Dyma fap rhyngweithiol o Arolwg Ordnans
cyntaf Aberdâr, ym 1868, i'ch tywys i mewn i
dreftadaeth gyfoethog y dref.
Camlas Aberdâr oedd yn cludo'r rhan fwyaf o'r nwyddau
a'r bobl ar gyfer y diwydiannau lleol yn gynnar yn y
19 eg ganrif. Er mor fach oedd y Gamlas yn ôl safonau
heddiw, fe chwaraeodd hi ran allweddol yn y Chwyldro
Diwydiannol. Ar hyd lannau'r Gamlas yr agorodd rhai o'r
glofeydd cynta i gloddio am lo i'w anfon i ffwrdd i'w
werthu. Dyma'r fasnach fu'n sylfaen economi'r De am y
ganrif nesa.
Safai Gwaith Haearn y Gadlys ychydig i'r Gogledd
o ganol tref Aberdâr. Cafodd ei agor ym 1827.
Yn hen D y Castio'r Gwaith Haearn mae Amgueddfa Cwm
Cynon bellach.