Gellwch
gysylltu â'r Lamp Works trwy'r cyfeiriad cyferbyn.
Noder: Nid yw'r dudalen we hon yn rhan o Wefan Llwybr
Treftadaeth Gwasanaeth Llyfrgelloedd Rhondda Cynon
Taf -
NID YW'R DUDALEN HON YN CAEL EI RHEDEG GAN E. THOMAS & WILLIAMS
CYF.
E. Thomas & Williams Cyf.
Cambrian Lamp Works
Ystad Ddiwydiannol Trerobert
Aberdâr
Morgannwg Ganol
CF44 8YY
Ffôn: 01685 876107
Ffacs: 01685 881319
Sefydlodd Evan Thomas y cwmni yn 1860 a'r safle gwreiddiol
oedd Cardiff Street, Aberdâr. Yn 1877 symudodd
i safle newydd ar Stryd y Graig oddi ar Monk Street,
Aberdâr. Ymunodd Mr. Lewis N. Williams, a oedd
yn awdurdod ar ddamcaniaeth a chreu lampau diogel, â Mr.
Evan Thomas yn y busnes. Ym 1907 daeth y busnes yn
gwmni cyfyngedig gan weithio o dan yr enw E.Thomas & Williams
Cyf.
Yn ystod yr 1880au a'r 1890au dangosodd y cwmni ei
lampau yn ystod amrywiaeth o arddangosfeydd diwydiannol
pwysig gan ennill sawl gwobr fawreddog yn cynnwys y
fedal aur yn y London Mining Exhibition. Yr oedd ehangiad
y diwydiant glo yn creu marchnad gartref weithredol
ar gyfer eu nwyddau ac yr oedd allforion hefyd ar gynnydd
gan allforio nwyddau i wledydd fel Awstralia, India,
De Affrica, Canada, America a Rwsia.
O ganlyniad i'r Rhyfel Byd Cyntaf dechreuodd
y cwmni wneud casinau siel ar gyfer y Fyddin a chynyddodd
nifer y gweithwyr i 70. Fodd bynnag, nid oedd y blynyddoedd
rhwng y rhyfeloedd mor llwyddiannus ac oherwydd y dirwasgiad
disgynnodd busnes a bu rhaid lleihau'r gweithlu. Newidiodd
hyn pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ac enillodd y
cwmni gytundebau gan y Weinyddiaeth Gyflenwi er mwyn
gwneud darnau dur a "Lightbuoy" bach a oedd
yn rhedeg ar fatri ar gyfer dod o hyd i oroeswyr llongau
a gafodd eu taro gan dorpido.
Parhaodd y cwmni i ffynnu nes i ddirywiad y diwydiant
glo yn y DU orfodi'r rheolwyr i chwilio am syniadau amgen
ar gyfer eu gweithlu. Arfer y cwmni o wneud Lampau Glowyr
Cambriaidd i'w cyflwyno i urddasolion y byd gwleidyddol,
milwrol a chwaraeon a ddatrysodd eu problem. Mewn byr
o dro, gwelwyd cynnyrch y cwmni mewn siopau ledled y
byd er nad oedd hyn yn
ddiwedd ar gynhyrchu lampau diogel. Ystyrir Lamp Ddiogel
Gambriaidd yn offeryn hanfodol ar gyfer dod o hyd i
gynnydd nwy peryglus ac y mae yn dal i gael ei defnyddio
mewn pyllau glo, howldiau llongau a charthffosydd hyd
heddiw.
Y mae'r cwmni yn parhau i weithio o ffatri
yn Nhrerobert y symudodd iddi wedi i'w safle yn Aberdâr
gael ei ddinistrio gan dân ym 1978. Y mae rhyw
12 o staff ac y mae yn dal i gynhyrchu tua 1500 o lampau
cain y mis i'w gwerthu ar draws y byd i gyd gan fod yr
unig wneuthurwyr cydnabyddedig lampau diogel yng Nghymru.
Erbyn hyn, y mae 70% o allbwn y ffatri yn cael ei allforio
i wledydd megis America, Canada, Sgandinafia a ledled
Ewrop ac ond ychydig yn cael eu defnyddio at bwrpas glofaol.
Gobeithir na fydd lampau efelychiadol rhad yn effeithio
ar werthiant ac, o bosib, ddyfodol y cwmni lleol hwn
sydd wedi'i hen sefydlu ac wedi bodoli ers dros 140 o
flynyddoedd.
I'r dde: Y lamp 9F a gafodd ei hysbysebu
yn rhifyn 5 catalog y cwmni tua 1910