Eglwys Ioan Fedyddiwr yw eglwys plwyf wreiddiol Aberdâr.
Does neb yn siwr pryd yn gywir y cafodd yr eglwys hon ei
chodi, ond mae lle i gredu'i bod wedi'i hadeiladu gyntaf
yn chwarter olaf y ddeuddegfed ganrif. Mae llawer o ysgolheigion
yn credu i'r eglwys gael ei chodi yn y flwyddyn 1189. Os
yw hyn yn gywir, mae Eglwys Ioan Fedyddiwr o leiaf 600
yn hynach na phob adeilad arall yn Aberdâr.
Dydy'r eglwys welwch chi heddiw ddim yn wahanol iawn i fel roedd hi 800 o flynyddoedd
yn ôl. Er hyn fe fu ambell i newid ynddi. Y tebyg yw bod dim Cangell ar
wahan yn wreiddiol, ac i'r Clochdyred a'r Drws Gorllewinol gael eu hychwanegu
yn ddiweddarach. Ymhlith y nodweddion pensaernïol gwreiddiol sy'n dal yno
mae'r drws o garreg galch Sutton i'r festri (dyna fuasai'r fynedfa yn wreiddiol),
a'r fedyddfaen wythonglog, sydd hefyd o garreg Sutton.
Eglwys Ioan Fedyddiwr tua 1827
- 1828. Ychydig iawn mae'r eglwys wedi newid ers i'r
chwiorydd Bacon dynnu'r llun hwn, a hawdd iawn yw'i nabod
o'r darlun.
Eglwys y plwyf oedd sylfaen bywyd y fro cyn
i'r dref ehangu'n gyflym yn sgîl y chwyldro diwydiannol.
Dyma oedd yr unig adeilad cyhoeddus, a byddai pobl wedi'i
defnyddio i sawl diben ar wahan i addoli. Byddai Llys Maenoraidd
yn cael ei gynnal yno yn ystod yr 17 eg ganrif, ac yn ystod
y 18fed ganrif buodd Ysgolion Cylchynol Griffith Jones yn
derfnyddio'r adeilad. Pan gafodd festri newydd ei chodi ym
1795, bu honno yn ei thro yn gartref i ysgol, gyda 20 o ddisgyblion.
Daeth hi'n amlwg nad oedd Eglwys Ioan Fedyddiwr ar ei phen
ei hun yn ddigon mawr i ddarparu ar gyfer anghenion ysbrydol
yr holl blwyfolion. Ym 1846, lle i 146 o bobl oedd yn yr
eglwys, ond erbyn 1851 roedd poblogaeth Aberdâr wedi
croesi'r 14,000. Yn ateb i hynny, dechreuodd yr awdurdodau
eglwysig ar raglen uchelgeisiol o godi eglwysi newydd yn
y plwyf, bob un wedi'i chysegru i sant neu santes arall -
Elfan (1852), Ffagan (1854), Lleurwg (1858), a Mair (1864).
Cymraeg oedd iaith y gwasanaethau yn Eglwys Ioan Fedyddiwr yr adeg honno, ond
erbyn y 1860 roedd adeiladwaith yr eglwys wedi dechrau dirywio. Roedd y ffenestri
wedi syrthio i mewn erbyn 1871, ac ofnnai rhai fod y to ar fin dod i lawr. Aeth
y bobl ati i gasglu arian i achub yr eglwys, ac fe ail-agorodd Eglwys Ioan Fedyddiwr
ar Ddydd Gwyl Ifan, 1876.
Eglwys Elfan
Fel y gwelsoch chi uchod, roedd pobl yn gweld angen mawr
am ragor o eglwysi yn Aberdâr erbyn canol y 19 eg ganrif.
Dechreuodd y symudiad i adeiladu eglwys newydd ym 1846, pan
benododd Ardalydd Bute y Parchedig John Griffiths yn Ficer
Aberdâr. Galwyd cyfarfod cyhoeddus ym 1850 i gyhoddi'r
prosiect, fyddai'n costio £3,000. Cyn pen 9 niwrnod
roedd y cyhoedd wedi cyfrannu £1,000, ac erbyn mis
Chwefror 1851 roedd £2,500 wedi dod i law. Cafodd y
pensaer Andrew Mosely'i benodi i ddylunio'r eglwys newydd.
Ymhen blwyddyn roedd yr arian wedi mynd yn brin ac roedd angen rhagor o gyfraniadau
gan y cyhoedd i dalu am adeiladu'r meindwr. Ond, er gwaetha'r problemau hyn,
daeth y gwaith i ben yn fuan ac agorodd Esgob Llandaf yr eglwys newydd yn swyddogol
ar 30 ain Medi 1852. Ond chafodd Eglwys Elfan Sant mo'i chysegru tan 25 ain Medi
1854, yn sgîl rhyw broblemau gyda'r trawsgludiad ar y tir. Ymhlith y torfeydd
mawr a ddaeth i'r seremoni roedd 1,200 o ymwelwyr o'r tu allan i Aberdâr,
oedd wedi cyrraedd mewn trenau arbennig. Roedd Eglwys Elfan Sant, ar ôl
ei chwblhau, yn 140 troedfedd 6 modfedd o hyd, 50 troedfedd 6 modfedd o led,
a 50 troedfedd o uchder yng nghorff yr eglwys. 180 troedfedd oedd uchder y meindwr.
Roedd rhagor o waith i'w wneud ar ôl
y seremoni gysegru. Cafodd 8 o glychau'u gosod ym mis Gorffennaf
1858, a dechreuodd cloc y twr weithio ym 1862. Unwaith eto,
haelioni'r cyhoedd dalodd am y gwaith. Daeth gwendidau yn
y gwaith adeiladu gwreiddiol i'r amlwg, ac roedd angen gwario £700
ar waith atgyweirio ym 1869. Ym 1884, cafodd Eglwys Elfan
Sant do newydd ac estyniad i'r gangell, ac fe godwyd y Porth
Gogleddol hefyd.
Bu rhagor o waith estyn ar yr eglwys ym 1910 - 1911, codi'r eil ddeheuol yn enwedig.
Daeth Esgob Llandaf i ail-agor Eglwys Elfan Sant ar 3 ydd - 4 ydd Hydref 1911.
Eglwys Fair
Cafodd Eglwys Fair ei chodi ar gyfer y plwyfolion oedd
yn addoli yn Gymraeg. Mrs. Ann Wayne, gwraig Thomas Wayne,
osododd y garreg syflaen ar Orffennaf 2 ail 1863. Cafodd
yr eglwys ei hagor a'i chysegru gan Esgob Llandaf ar 10
fed Tachwedd 1864.
Arthur Blomfield oedd pensaer Eglwys Fair a Philip Rees, Aberdâr, oedd
y contractiwr adeiladu. Costiodd y gwaith adeiladu £2,797. Roedd y nofelydd
Thomas Hardy'n gweithio fel prentis pensaer i Arthur Blomfield ar y pryd, ac
yn ôl y traddodiad lleol y fe oedd yn gyfrifol am y planiau i'r eglwys
hon. Mae rhai'n dweud iddo fod yn aros ym Monk Street, ac yntau'n goruwchwylio'r
gwaith adeiladu. Yn anffodus, does dim tystiolaeth gadarn i ategu'r honiadau
hyn. Cafodd Eglwys Fair ei hadeiladu yn yr arddull Gothig Ffrengig, gyda changell
yn ymagor i gorff yr eglwys. To trumiog oedd ar y twr, oedd yn cynnwys un gloch
ddur. Un o nodweddion anghyffredin yr eglwys oedd y fedyddfa yn is na llawr
yr eglwys, gyda grisiau yn arwain i lawr iddi.
De: Llun, gan y ffotograffydd lleol
enwog Glyn Davies, o dwr Eglwys Fair gyda'i do trumiog hynod.
Bu Eglwys Fair yn gartref ysbrydol i'r plwyfolion
Cymraeg eu hiaith am gryn ganrif, ond erbyn 1963 roedd llai
na 100 o ffyddloniaid a doedd dim modd cadw'r achos i fynd.
Cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru nad oedd Plwyf Aberdâr
yn gallu cynnal Eglwys Fair ragor. Gweinyddodd Esgob Llandaf
y Cymun Bendigaid yno ar 5 ed Ebrill 1964, a dyna'r gwasanaeth
olaf yn yr eglwys. Aeth yr adeilad ar werth ac, mewn arwerthiant
yn y Boot Hotel ym mis Chwefror 1964, cafodd ei brynu gan
Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr am £2,500. Tynnwyd
yr adeilad i lawr ac, yn sgîl gwaith datblygu, agorodd
Canolfan Gymdeithasol Eglwys Fair ym 1969.