ae'r delweddau hyn, tynnwyd un ar droad yr Ugeinfed Ganrif
a'r llall yn 2003, yn bortread dramatig o newidiadau ardal
Greenfach yn ystod y blynyddoedd cyfamserol. O gymharu'r
ddau ffotograff gellir gweld Capel Siloa, tyrrau Eglwys
St Elfan a'r Constitutional Club ond nid oes llawer arall.
Erbyn hyn, saif adeiladau'r goron ar safle Gadlys Row ar
ochr chwith y ffotograff tra, ar ochr dde y ffotograff,
dymchwelwyd Dare Place, Dare Street a Chapel Street ac
yn eu lle ceir maes parcio.
Clirio Green Fach er mwyn adeiladu'r Llyfrgell
Newydd
Ym 1961 dechreuodd y gwaith i glirio ardal Greenfach
er mwyn adeiladu llyfrgell newydd ac adeiladau'r cyngor.
Dinistriwyd tafarn y Green Dragon Inn, a oedd wedi bod
ar agor ers 1835, a sawl stryd ac adeilad arall. Adeiladwyd
Greenfach ar safle hen bentref Aberdâr yn y 1840au
a'r 1850au ar yr un adeg â rhan helaeth o ganol y
dref.
Mewn byr o dro, datblygodd Greenfach enw yn ardal leiaf dymunol
y dref. Yn adroddiad 1853 Thomas Webster Rammell ar gyflwr
glanweithdra Aberdâr disgrifiwyd Greenfach yn lle; "where
there are a large number of houses crowded together upon
a very limited space, without any street paving, drainage
of any kind, or ventilation. These houses have, most of them,
been lately built." Hefyd, yn y 19eg Ganrif cysylltwyd
ardal Greenfach â throsedd ac ymddygiad anweddus.
Dare Street
Addurnwyd ar gyfer coroni Brenin George VI a'r Frenhines Elizabeth ym mis Mai
1937. Gwelir yn y llun pa mor fach oedd tai ardal Greenfach a pha mor agos at
ei gilydd yr oeddent. Byddai nifer o'r tai a gafodd eu codi yn ystod canol y
19eg Ganrif wedi cael eu hadeiladu yn rhad gan ddefnyddio maen brasnadd ac iddynt
seiliau bas. Am y rhesymau hyn cafodd tai ardal Greenfach eu dymchwel yn ystod
y 1960au cynnar.