Cafodd y Ganolfan Iechyd newydd ei chodi yn y 70au cynnar.
Roedd rhaid dymchwel Ty Mawr yn gyntaf er mwyn clirio'r
safle. Dyna ddiwedd ar 200 o flynyddoedd o draddodiad lleol.
Y ty mwyaf yn y dref oedd Ty Mawr pan gafodd ei godi tua
1775 – 1800. Teulu o'r enw Richards oedd yn byw yno. Erbyn
tua 1820, y siopwr Evan Griffiths oedd yn cynnal ei fusnes
yno. Ar ôl 1900, daeth Ty Mawr yn gartref i nifer
o feddygon uchel eu parch yn yr ardal. Bu Dr. Evan Jones,
Dr. Harry Banks, ac eraill yn byw yno yn eu tro.
Chwith: Cartref Dr. Harry Banks, Ty Mawr,
yn ystod Gorymdaith y Sul Dinesig tua 1930.
Pen de-ddwyreiniol High Street, ychydig cyn 1900. Dyma
un o geirt cwrw bragdy'r Rock Brewery yn aros ar yr ochr
dde.
De: Un o geirt bragdy'r Brewery Dray yn High Street
Roedd angen niferoedd mawr o bobl i weithio yn y diwydiannau
glo a haearn. Cododd llu o fân ddiwydiannau i ddiwallu
anghenion y bobl yma. Cafodd melin wlân Glandare
ei chodi ger Canon Street a High Street, ond ym 1862 fe
drowyd yr adeilad yn ffatri esgidiau Halewood. Bu'r ffatri'n
gwerthu'i hesgidiau drwy siopau yn Aberdâr ac ar
draws y De, nes cau'i drysau ryw bryd ar ôl y Rhyfel
Byd Cyntaf.
Chwith: Ffatri Esgidiau Halewood - High Street
Walford James oedd yr organydd sefydlog yn y Rex pan
agorodd y sinema'i drysau ym mis Ebrill 1939. Offeryn ysblennydd
oedd yr organ Compton yno, mewn ffrâm wydr yn llaw
goleuadau stribed. Byddai'r organ yn codi drwy lawr y llwyfan,
a lliwiau'r goleuadau'n newid yn awtomatig. Byddai Walford
James yn rhoi datganiad organ deirgwaith y dydd. Mae'r
organ Compton yn dal mewn bodolaeth – darllenwch
ei hanes yma . O'r holl sinemâu yng Nghymoedd
y De, roedd y Rex gyda'r mwyaf moethus, gyda lle i 1,700
o wylwyr. Roedd y gwaith addurno'n llawn lliwiau llachar
a siapiau geometraidd caled arddull Art Deco .
Ond ar i lawr oedd hanes y Rex ar ôl yr Ail Ryfel
Byd, a chaeodd y drysau ym 1981. Cafodd yr adeilad ei ddymchwel
ym mis Awst 1990, ar gyfer maes parcio newydd.
De: Tom Joseph wrth yr organ Compton yn sinema'r Rex