Yr olygfa wrth edrych i gyfeiriad y de o Loc Odyn Galch
tuag at Loc Stackhouse a Loc Isaf. Roedd y 3 o lociau yma'n
rhan o gyfres o 11 o lociau yn Abercynon a oedd yn gostwng
y gamlas 116 o droedfeddi. Gyda'r 5 loc arall i'r gogledd
Nghoedtre, câi'r gamlas ei gostwng dros 200 o lathenni
mewn llai na milltir. Byddai hi'n cymryd dwy awr i fad i
deithio trwy'r lociau yma. Yn y pellter mae modd gweld Glofa
Dowlais – Caerdydd a agorodd ym 1889 ac a gaeaodd ym 1988.