Walford James oedd yr organydd preswyl cyntaf
- dyn ifanc 17 oed o Donypandy bryd hynny a oedd wedi cael
peth profiad o ganu'r organ yn Boscombe cyn iddo 'ddod
adref'. Fe oedd yn rheoli sinema 'Cosy' Aberdâr ar
ran yr un cwmni. Cafodd yr organ, fodd bynnag, ei agor
yn swyddogol gan y cerddor Max Bruce. Er nad oedd e'n organydd
enwog, fe oedd organydd cyntaf y Tower Ballroom, Blackpool
nôl yn ôl ym 1929, cyn i Reginald Dixon gyrraedd
yno flwyddyn wedi hynny.
Aeth Walford i fyw yn Llundain ym 1940 i chwarae yn
The State Theatre , Dartford a'r Capitol, Wembley. Ar ôl
cyfnod yn y Llu Awyr, bu'n athro ac yn arholwr cerddoriaeth
a bu'n canu'r organ yr eglwys lleol. Penderfynodd ymddeol
i orllewin Cymru yng nghanol yr 1980au le buodd e'n byw
tan ei farw ym 1994.
Chwith: Walford James wrth yr organ
Doreen Chadwick o Faes-y-coed, Pontypridd cymerodd le
Walford, glaslanc ifanc unwaith eto (18 oed). Gene Lyn,
sinema'r Castell, Merthyr Tuful oedd ei hathrawes. Camodd
ymlaen i diroedd gleision sinemau Granada yn Llundain,
ac yna i'r Gaumant, Manceinion yn y 1950au. Ac hithau'n
ei 80au, mae hi'n perfformio o hyd (2005) ac mae hi'n recordwraig
a darlledwraig o fri.
I'r dde: Doreen Chadwick
Cerddor enwog arall bu ar lwyfan y Rex yn y 1950au oedd Eric Williams. Dyn lleol o’r Godreaman a dreuliodd gyfnod yn diddanu yn yr Awyrlu. Roedd yn gweithio i gwmni Brecon Meat Supply yn Aberdâr (Joys Florist erbyn hyn). Yn ystod ei gyfnod yn y Rex, bu’n diddanu’r gynulleidfa â cherddoriaeth yr ‘hit parade’ newydd a chroesawu ceisiadau wrth y swyddfa docynnau.
(diolch i Eric Williams am y llun a’r wybodaeth)
Nid organ theatr gyffredin mo'r Compton. Organau pib
oedd y rhan fwyaf o organau sinema (megis yr un yn sinema'r
Castell, Merthyr Tudful), er doedd y gynulleidfa ddim yn
ymwybodol o hyn gan fod y pibau wedi'u cuddio y tu ôl
i waith plastr cain. Yn y 1930au, dyfeisiodd gwmni John
Compton Organ Company ychwanegiad electronig i'w organau
sinema - y 'Melotone' oedd ei enw. Erbyn 1938, datblygodd
yr 'organ' yma i fod yn offeryn llawn. 'Electrone' oedd
enw'r rhai cafodd ei gosod mewn eglwysi a chapeli a'r 'Theatron'
gafodd eu gosod mewn sinemâu. Roedd cyfnod euraidd
organ y sinema drosodd erbyn 1939 - dim ond tua 12 ohonyn
nhw cafodd eu hadeiladu cyn y rhyfel ond fe gafodd un neu
ddau eu gosod mewn gwestai a neuaddau dawns ddiwedd y 1950au
cyn i'r cyfnod cynhyrchu ddod i ben yn gyfan gwbl. Organ
Sinema'r Rex oedd un o'r organau theatr gorau'r cyfnod
- roedd iddi seinchwyddwyr (amplifiers) o safon dda ac
ystod eang o gyrn sain y tu ôl i'r 'rhwyll' i'r chwith
o'r llwyfan. Yn ogystal â hynny, roedd iddi gist
safonol Compton wedi'i hamgylchynu gan wydr a golau.
Chwith: Hysbyseb gan
gwmni Compton
Chafodd yr organ ddim llawer o ddefnydd
yn y cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd. Wrth i deledu ddenu cynulleidfaoedd
ar draul y sinemâu, roedd gwasanaeth yr organydd yn hen ffasiwn
ac yn gostus. Yn y pen draw, caewyd pwll y gerddorfa gan
lawr pren ac aeth yr organ yn angof. Ceisiodd o leiaf dau
berson brynu'r organ yn y 1970au, ond gwrthododd perchennog
y theatr hynny. Caewyd drysau'r Rex am y tro olaf ym 1983
ac aeth yr organ i ddwylo casglwr ger Caerdydd. Ond fe benderfynodd
nad oedd modd atyweirio'r organ a'r flwyddyn ganlynol roedd
hi ar werth. Fe welodd un o'r bobl geisiodd brynu'r organ
yn y lle cyntaf yr hysbyseb, a chyn hir, roedd yr organ ar
y ffordd i Gastell-nedd ar gyfer gwaith atgyweirio a barodd
tair blynedd. Ym 1987, wedi i'r perchennog brynu organ bib,
gwerthwyd hi eto, ac am gyfnod, roedd modd ei chlywed hi
mewn neuadd ar Ynys Wyth. Yn sgîl newid yn amgylchiadau
ei pherchennog, tynnwyd yr organ o'r neuadd a'i rhoi ar gadw
am gyfnod o wyth mlynedd.
Uchod: Y Compton wedi codi llawr
pren pwll y gerddorfa.
Cysylltodd Stephen Dutfield â'r perchennog yn 2003,
ac ym mis Ebrill yn yr un flwyddyn, aeth e i Ventnor, mewn
fan fawr i gasglu'r organ. Roedd y cyrn sain gwreiddiol wedi
pydru cyn i'r organ adael y sinema flynyddoedd yng nghynt
a thaflwyd y seinchwyddwyr i'r domen sbwriel. Ond roedd y
gist a'r cyfarpar electronig yn gyflawn - er yn frwnt. Mae
Stephen wedi llwyddo i gael gafael ar seinchwyddwyr Compton
llai a chwpwrdd Compton hefyd ac mae e'n gobeithio dechrau
ar y gwaith atgyweirio nes ymlaen eleni (2005)
Hoffen ni ddiolch i'n cyfrannydd Stephen J Dutfield
am holl wybodaeth sy ar y dudalen hon.
Chwith:
Stephen J Dutfield yn sefyll wrth y Compton Theatron