Doedd dim tai gweithwyr i'w cael yn Aberdâr
ym 1799. Dyna ddywedodd Thomas Dafydd Llewellyn
wrth sgrifennu'i gyfrol Gardd Aberdar : yn cynwys
cyfansoddiadau buddugol yn dal cysylltiad a phlwyf Aberdar a'r cylchoedd
ym 1853. Ond daeth newid sydyn i hyn ym 1801, pan agorodd Gwaith Haearn
Abernant. Tai yn Little Row a Moss Place oedd y cynta i'w codi, ym 1800,
a chafodd twf y dref hwb arall yn ail hanner y 19eg ganrif. Mae'n bosibl
bod hyn wedi digwydd oherwydd cynnydd mewn gwerthiant glo, ac adeiladu
llinell leol o Reilffordd Cwm Nedd i Ferthyr Tudful. Mae enwau rhai o'r
strydoedd a godwyd yr adeg honno'n dwyn i gof gymaint mae diwydiannau
trwm yn rhan o dreftadaeth y fro, e.e. Engineer's
Row, Foreman's Row, a Collier's Row. Agorodd gorsaf
Abernant ym 1854.
'Trap' oedd enw poblogaidd
godre Abernant yn gynnar yn y 19eg. Does neb yn hollol
si w r o'r rheswm am hyn. Un esboniad cyffredin yw
bod llawer o dafarnau yno ar un adeg, a bod gweithwyr
yn cael eu maglu yno ar eu ffordd adre. Mae ysgolheigion
o'r farn taw gris neu gamfa oedd y 'trap', lle'r
oedd Tramffordd Cwmni Haearn Aberdâr yn croesi
Ffordd y Plwyf i Aber-nant. Roedd Ardalydd Bute yn
cynnal ysbyty bwthyn bach yn yr ardal o dua 1875
tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd yr adeilad ei ddefnyddio
fel meddygfa leol nes cael ei ddymchwel ym 1980.
Fe fu nifer o lofeydd ar waith yn Aber-nant. Cafodd
llawer ohonyn nhw'u hagor yn wreiddiol gan Gwmni
Haearn Abernant. Dyma'u henwau: Werfa No. 1 (1846
- 1910); Werfa No. 2 (1879 - 1910); Mountain (1866
- 1927); Blaennant (tua 1840 - 1927); Forge (1851
- 1910); a River Level (tua 1840 - 1939). Fe fu llifogydd
trychinebus yn River Level ym 1896, a chafodd chwech
o'r glowyr eu boddi. Gweler isod am ddisgrifiad o'r
digwyddiadau trychinebus yma.
Ty Abernant
James Birch gododd y plasty gwreiddiol
yn Aber-nant. Fe a Jeremiah Homfray oedd sylfaenwyr
Gwaith Haearn Aber-nant. Ar ôl gwerthu'r Gwaith
Haearn ym 1819, daeth y t y 'n eiddo i Rowland Fothergill.
Wedyn fe ddaeth ei nai e, Richard Fothergill, yn
berchen ar y t y a chychwyn ar raglen uchelgeisiol
o waith yno. Cododd e estyniadau i'r prif adeilad,
a dechrau tirweddu'r gerddi ar raddfa helaeth.
Chwith: Ty Abernant
T y Abernant oedd cartref cyntaf Coleg Diwinyddol
San Mihangel. Cafodd y Coleg ei sefydlu yno
ym 1892 gan Emma Talbot, Margam, i hyfforddi
offeiriad i'r Eglwys yng Nghymru. Agorodd y
Coleg Ddydd G w yl Ddewi'r flwyddyn honno,
gyda thri o fyfyrwyr. Erbyn yr ail dymor, roedd
12 o fyfyrwyr yn mynychu cyrsiau yno. Y Canon
H. R. Johnson oedd Warden cynta'r Coleg. Doedd
y Coleg ddim yn si w r faint fydden nhw'n cael
aros yn Nh y Abernant, ac felly dyna nhw'n
symud i lawr i Landaf ym 1907. Ers 1917 fodd
bynnag T y Abernant yw cartre Ysbyty Cyffredinol
Aberdâr.
De: Mae'r
llun hwn o gapel Coleg Diwinyddol San Mihangel
yn dangos mor gain a manwl oedd pensaerniaeth
y tu fewn i D y Abernant. Cafodd y rhain
eu distrywio yn nh â n 1929.
Dechreuodd y symudiad i agor ysbyty i'r fro ym 1907. Godreaman oedd y
dewis cynta o ran safle i'r ysbyty, ond bu llawer o oedi am wahanol
resymau. Cynigiodd Ardalydd Bute brynu prydles ar D y Abernant, ac
roedd y pwyllgor yn falch i dderbyn hyn. Cyfrannodd y cyhoedd £14,428
at gost yr ysbyty, gyda meistri glo'r ardal yn cyfrannu £10,000
yn ychwanegol. Horace J. Davies, Bargoed, fu'n gyfrifol am addasu
T y Abernant. Costiodd y gwaith hwn £10,300. Agorodd Ysbyty
Cyffredinol Aberdâr ar Orffennaf 17 eg 1917.
Ehangu wnaeth yr Ysbyty a'i diroedd o'r cychwyn cyntaf, gyda chwmni Powell
Duffryn yn rhoi tair erw ar ochr ddeheuol yr adeilad. Cododd gweithwyr
yr ardal eu cyfraniadau o un hen geiniog i dair hen geiniog yr wythnos
ym 1920, a chyda'r arian hwn roedd modd ymestyn y Wardiau Offthalmig
ac Orthopedig. Agorodd Ward Ymadfer newydd ym 1923, a phrynodd Charles
Kenshole y cyfan o'r tir i'r de o Barc Abernant a'i roi i'r Ysbyty. Erbyn
1927 roedd yr Ysbyty'n berchen ar yr holl dir o'i gwmpas. Cafodd fferm
ei sefydlu i gyflenwi llaeth ffres i'r cleifion.
Fe fu tân trychinebus ar Fedi
27 ain 1929. Cafodd T y Abernant, y prif adeilad
i gyd, ei ddinistrio. Doedd dim ar ôl o'r adeilad
ond cragen wag, gyda'i harddwch wedi'i losgi'n ulw.
Daeth Ei Huchelder Brenhinol Duges Efrog (y Fam Frenhines
yn ddiweddarach) i ailagor yr Ysbyty ym 1933. Parhaodd
yr Ysbyty i ehangu gyda chymorth noddwyr lleol, ac
ym 1939 fe dalodd W. M. Llewellyn am godi ward mamolaeth
newydd.
Chwith:
Dyma lun yn dangos mor ddifrifol oedd y ddifrod
yn sgîl tân
Medi 27 ain 1929.
Gwaith Haearn
Abernant
Jeremiah
Homfray a James Birch ddechreuodd Waith Haearn Abernant.
Fe brynon nhw brydles ar dir ac ar hawliau mwynol
Abernant-y-Wenallt ym 1801. Ym 1804, daeth James
a Francis Tappenden o Gaint i ymuno yn y fenter,
a chodwyd tair ffwrnais ar y safle. Adeiladodd James
a Francis Tappenden dramffordd i gysylltu'r Gwaith
Haearn â Chamlas Castell-nedd,
ond ym 1807 cododd ffrae am y dramffordd rhyngddyn
nhw â'r ddau bartner arall. Ymadawodd Homfray
a Birch o'r cwmni, gan adael y cyfan yn nwylo'r ddau
Tappenden. Ond mae'n debyg fod James a Francis wedi
bod yn rhy uchelgeisiol yn y blynyddoedd nesaf, ac
fe gollon nhw anghydfod cyfreithiol gyda Chamlas Castell-nedd.
Bu raid iddyn nhw wneud cais i fynd yn fethdalwyr ym
1814. Ym 1819, prynodd Cwmni Haearn Aberdâr
Waith Haearn Aber-nant, i'w ychwanegu at ei gwaith
haearn yn Llwytcoed.
Uchod: Richard Fothergill
Roedd tair ffwrnais
yn gweithio yn Aber-nant ym 1823, ond doedd dim cyfleusterau
ar gyfer coethi'r haearn. Rhaid ei anfon draw i Ferthyr
Tudful i'w droi'n fariau haearn bwrw. Pan gymerodd
Rowland Fothergill a'i nai Richard y Gwaith Haearn
i'w dwylo ym 1846, dechreuon nhw foderneiddio'r lle
o ddifrif. Yn Abernant yr adeiladon nhw'u ffwrnais
a'u melinau, er mwyn coethi'r haearn crai o wethiau
Abernant a Llwydcoed.
Chwith: llun pensil o Abernant,
mis Medi 1827
Cafodd y melinau a'r efail eu hadeiladu gyda tho
haearn ar golofnau. Roedden nhw'n llenwi darn
mawr o dir. Ym 1869, roedd yr efail yn cynnwys
78 o ffwrneisiau pwdlo a 27 o ffwrnesiau pelennu.
Roedd y melinau'n cynnwys dwy felin gledrau fawr,
cnaif ar gyfer torri bariau oer, a llawer o lifiau
a gweisg. Gwaith Haearn Aberdâr oedd un o'r gwneuthurwyr cledrau
haearn bwrw pwysicaf yn y byd yr adeg honno. Ond daeth tro ar fyd gyda
chwymp yn y fasnach cledrau haearn bwrw a streic gan y glowyr. Fe gaeodd
Cwmni Haearn Aberdâr, a'r holl weithfeydd cysylltiedig, ym 1875
ac roedd sôn am gamreoli ariannol gan Richard Fothergill.
Trychineb Glofa
River Level 1896
Cafodd
gweithfeydd Glofa River Level, Aber-nant, eu boddi
ar Ragfyr 9 fed 1896 gan dd w r o hen weithfeydd yng
Nglofa Ysguborwen. Roedd enw drwg gyda Glofa Ysguborwen
fel pwll eithriadol o wlyb, ac ychydig cyn iddi gau
roedd rhai o'r glowyr yno wedi bod yn gweithio mewn
man oedd bron â thorri
i mewn i hen weithfeydd River Level. Heb yn wybod i
lowyr a rheolwyr River Level, roedd y rhwystrau rhwng
Hedin Rhif 2 River Level, a gweithfeydd Ysguborwen,
wedi cael eu gwanhau'n enbyd. Disgynnodd y seilin yn
lefel ddraenio Ysguborwen, a doedd dim modd i'r d w
r ddianc. Yn lle rhedeg i ffwrdd, fe dorrodd drwodd
i weithfeydd River Level.
Yn ystod y cwest wedyn, fe ddaeth hi'n amlwg bod rhai o lowyr Ysguborwen
wedi torri trwodd i lofa River Level. Gwaetha'r modd, doedd neb wedi
dweud wrth reolwyr Ysguborwen am y perygl posibl. Yn ôl adroddiad
gan y bargyfreithiwr Robert Woodfall, ar reolwyr Ysguborwen roedd
y bai. Roedd rheolwyr River Level, meddai fe, heb wneud dim o'i le.
Ond credai er hyn y byddai sicrhau dyfarniad euog yn anodd gan fod
byrbwylltra o'r fath mor gyffredin ym myd mwyngloddio.
O'r 120 o lowyr oedd yn gweithio yng nglofa River Level, collodd chwech
o ddynion a dau grwt eu bywydau. Y dynion oedd Thomas Jones (29); John
Phillips (39); John Jenkins (52) a'i fab, a Thomas Jenkins (18): y ddau
fachgen oedd George Evans (14) a John Williams (13). Roedd rhaid pwmpio'r
d w r a'r nwy i gyd allan o'r pwll cyn chwilio am eu cyrff, a doedd dim
modd cyrraedd y rheiny tan Rhagfyr 23 ain . Ddydd Nadolig y cafodd yr
angladd ei gynnal, gyda channoedd o bobl yn tyrru i Aber-nant i hebrwng
y glowyr marw i Fynwent Aberdâr. Yn ôl gohebydd y South Wales
Daily News , ymestynnai'r orymdaith o 2,000-3,000 o bobl filltir o hyd
cyn iddi gyrraedd tref Aberdâr. Daeth rhagor o bobl i ymuno yn
yr orymdaith wrth iddi symud ymlaen drwy Drecynon i'r Fynwent. Safai
gwylwyr fesul naw neu ddeg o resi oddeutu llwybr yr orymdaith hefyd.