Fel y rhan fwyaf o Gwm Cynon, ardal ddistaw a gwledig oedd Cwmbach cyn dyfodiad
diwydiant. Amharwyd ar ei llonyddwch gwledig gyntaf pan agorwyd camlas Aberdâr
fis Mai 1812. Ar ôl hynny, byddai trafnidiaeth yn pasio drwy ardal Cwmbach
er mwyn cyrraedd y gamlas, teithio ymhellach i'r gogledd neu ymuno â'r
Glamorganshire canal tua'r de. Agorwyd y gamlas yn wreiddiol er mwyn hwyluso
masnachu gyda'r diwydiant haearn yn ardal Aberdâr, ac roedd mewn lleoliad
cyfleus dros ben pan agorwyd y pwll glo ager cyntaf ar gyfer y farchnad allforio
yng Nghwmbach ym 1837.
Mae'r map uchod yn dangos y cysylltiad agos rhwng y gamlas, y rheilffyrdd a'r
glofeydd
Yn sgil y galw aruthrol am lo ager, agorodd nifer o lofeydd yng Nghwmbach. Daeth
y diwydiant glo i ddibynnu llawer ar y gamlas, a datblygwyd porthladd bach yng
Nghwmbach. Roedd cymaint o lo yn cael ei gynhyrchu yn y cwm nes i'r gamlas barhau
tan ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, er gwaethaf cystadleuaeth gref gan
reilffordd y Taff Vale (1848) a'r Great Western (1864).
Wrth i Gwmbach ddatblygu'n ardal lofaol ffyniannus,
dechreuodd esblygu'n dref fodern fel sy'n gyfarwydd i ni
heddiw. Adeiladwyd llawer o dai ar gyfer y nifer fawr o
bobl a oedd yn cyrraedd i weithio yn y glofeydd. Erbyn
1861 roedd nifer o strydoedd eisoes wedi'u hadeiladu, gan
gynnwys Timothy Row, Scales Row, Ynyscynon Street a Little
Row. Aed ati ar unwaith i sefydlu siopau yn y pentref,
ac ymhlith y siopau groser, crydd a dillad, agorwyd siop
Gydweithredol gyntaf Cymru. Agorwyd tafarndai hefyd, gan
gynnwys y Colliers Arms (1841), y Scales Arms (1845) a'r
Crown Inn (1851).
Chwith: Y Scales Arms
Adeiladwyd nifer o addoldai hefyd, gan gynnwys capel
i'r Bedyddwyr ym 1841, capel bach o'r enw Capel Bricks
i'r Annibynwyr ym 1846 a Chapel Methodistiaid Calfinaidd
Tir Bach ym 1852. Roedd rhaid aros tan 1882 cyn i'r Eglwys
godi adeilad yn y pentref pan agorwyd Eglwys Santes Mair
Magdalen. Agorodd sawl adeilad arall o bwys yn ystod y
cyfnod hwn, gan gynnwys Neuadd Gyhoeddus y Gweithwyr Cwmbach
ym 1911 a'r Ysgol Gymysg tua 1868.
De: Eglwys Santes Mair Magdalen
Cymdeithas Gydweithredol Cwmbach – Y
gyntaf yng Nghymru
Roedd arloeswyr y mudiad Cydweithredol yng Nghymru yn hanu o Gwmbach, sef John
Rees, gl ö wr a ddaeth yn rheolwr cyntaf y Gymdeithas, a Daniel Thomas,
peiriannydd yng nglofa Lletty Shenkin. Roedd eu diddordeb yn y mudiad wedi dechrau
yn sgil cyfres o lythyron a ymddangosodd yng ngholofnau papur newydd Reynold
yn adrodd hanes Arloeswyr Rochdale. Ar ôl darllen yr erthyglau am ddigwyddiadau
trychinebus streic 1857, pan gaewyd siopau'r cwmni gan berchnogion y lofa, cafodd
y ddau eu hysbrydoli i sefydlu Cymdeithas Gydweithredol yng Nghwmbach. Aethant
ati i gynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghwmbach er mwyn trafod y mater. Cynhaliwyd
y cyfarfod ar 9 Hydref 1859 yn y Mount Pleasant Inn, a chytunwyd y dylid mynd
ati i sefydlu Cymdeithas Gydweithredol. Ymunodd hanner cant a chwech o aelodau
yn ystod y cyfarfod.
Daethpwyd o hyd i adeiladau addas ger Camlas Aberdâr,
sef bythynnod Capel Bricks, ac agorwyd y siop gyntaf ar
8 Mawrth, 1860. Hon oedd y siop gydweithredol gyntaf i
agor yng Nghymru, tua phymtheg mlynedd ar ôl i'r
siop gyntaf agor yn Lloegr. Messrs. D. Thomas and Co. Limited
oedd enw'r Gymdeithas ar y pryd, hynny er anrhydedd i'w
sylfaenydd. Newidiwyd yr enw i'r Cwmbach Industrial Co-operative
Society Limited yn ddiweddarach. Roedd y siop wreiddiol
yn llwyddiannus iawn, ac roedd nifer yr aelodau wedi codi
i 174 erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf. Agorwyd canghennau
eraill yn ddiweddarach yn Aberaman ym 1874, Cwmaman ym
1883, ac Aberpennar ym 1892. Adnewyddwyd ac ehangwyd y
sefydliad gwreiddiol ym 1900 er mwyn sicrhau ei fod cystal
ym mhob ffordd â'i ganghennau eraill.
Chwith: Y Co-op ar ddechrau'r ugeinfed
ganrif
Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif dechreuodd y gymdeithas
golli cwsmeriaid, yn bennaf oherwydd cystadleuaeth gref
gan Gymdeithas Aberdâr, a gynigiodd ddifidend uwch
na Chymdeithas Cwmbach, a hefyd oherwydd effeithiau gweithredu
diwydiannol yn y diwydiant glo. Ym 1927 agorodd pennod
newydd yn hanes y Gymdeithas wrth iddi uno â'r Aberdare
Co-operative Society i ffurfio'r ‘Aberdare and District
Co-operative Society Limited'. Parhaodd y siop wreiddiol
i werthu cynnyrch am nifer o flynyddoedd yn dilyn yr uno,
ond cafodd ei dymchwel fis Mawrth 1977 i wneud lle i dai
newydd.
De: Y Co-op yn Bridge Street yn ystod
y gwaith dymchwel
Côr Meibion Cwmbach
Ffurfiwyd Côr Meibion Cwmbach ym 1921, ac yn ôl
yr hanes lleol, fe'i sefydlwyd adeg gêm griced leol
fis Mehefin 1921. Collodd nifer o'r bobl oedd yn gwylio'r
gêm bob diddordeb yn y chwarae, ac aethant ati i
ganu emynau a chaneuon. Yn sgil hyn, awgrymwyd y dylid
ffurfio Côr Meibion. Cynhaliwyd cyfarfod wedyn yn
y Cwmbach Hall and Institute, a sefydlwyd Côr Meibion
Cwmbach.
Enillodd y côr enw da bron yn syth, gan fwynhau llwyddiant
wrth gystadlu a pherfformio mewn cyngherddau. Mae'r côr
wedi ennill gwobrau lu, gan ddod i'r brig mewn Eisteddfodau
lleol ac yn Eisteddfod Genedlaethol Port Talbot (1966) ac eto
yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri (1968). Ym 1962 daeth y
côr i'r brig ym Mhrif ac Ail Gystadleuaeth Côr
Meibion Eisteddfod y Glowyr Porthcawl – camp hollol unigryw.
Dros y blynyddoedd mae'r côr wedi teithio'n helaeth,
gan berfformio yn y Royal Festival Hall, y Royal Albert
Hall, y Barbican, Neuadd Dewi Sant a sawl lleoliad arall
ar hyd a lled y wlad. Aethant dramor am y tro cyntaf ym
1961, gan deithio i Hwngari er mwyn perfformio yn y Bela
Bartok Festival – y côr cyntaf o Gymru i ganu y tu ôl
i'r ‘Llen Haearn'. Ers hynny maent wedi perfformio yn Ffrainc,
Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Iwerddon, Sbaen,
Canada a De Affrica.
Ers diwedd y 1950au mae'r côr wedi ymddangos sawl
gwaith ar y radio a'r teledu ac wedi rhyddhau nifer o recordiau,
tapiau a CDs. Record gyntaf y côr oedd ‘Male Voice
Favourites' a ryddhawyd ym 1960. Côr Meibion Cwmbach
oedd y côr cyntaf erioed i ganu ym Mharc yr Arfau
cyn gêm rygbi ryngwladol.
Mae'r côr yn parhau i ffynnu hyd heddiw ac yn llwyddo
i gynnal y safonau uchel a osodwyd gan yr aelodau gwreiddiol
dros 80 mlynedd yn ôl.
Diwydiant Glo Cwmbach
Mae gan Gwmbach le arbennig yn hanes y diwydiant glo ager yng Nghwm Cynon gan
mai yno yr agorwyd y pwll glo dwfn cyntaf. Arloeswr y diwydiant hwn oedd Thomas
Wayne, mab Mathew Wayne, haearnfeistr a meistr glo o Ferthyr. Enynnwyd ei ddiddordeb
yn y diwydiant glo gan lwyddiant Lucy Thomas o Waun-Wyllt ym Merthyr, a wnaeth
gytundeb gyda George Insole i werthu glo yn ardal Llundain ym 1830. Roedd y
glo yn gwerthu mor dda nes i Mrs. Thomas lwyddo i werthu ei holl lo ym mhen
y pwll am 4s. 0d. y dunnell ymhen ychydig fisoedd.
Llwyddodd Thomas Wayne i berswadio ei dad a'i frawd
hynaf y dylid mynd ati i geisio cyrraedd yr wythïen
lo ager bedair troedfedd enwog. Roedden nhw'n ffyddiog
y gellid dod o hyd i'r wythïen honno yng Nghwmbach,
a gwnaethant gytundeb gyda pherchnogion Ystâd Abernant-y-Groes
i agor pwll a chloddio unrhyw lo ar yr ystâd. Agorwyd
glofa Abernant-y-Groes (Glofa Cwmbach yn ddiweddarach)
fis Mehefin 1837 ac erbyn Rhagfyr y flwyddyn honno roedden
nhw wedi suddo'r siafft 60 troedfedd, gan gyrraedd y glo
ager.
Chwith: Mae Glofa Abernant-y-Groes
yn ymddangos ar y map Arolwg Ordnans hwn dan yr enw Glofa
Cwmbach.
Aeth sylfaenwyr y fenter ati'n syth i ffurfio Wayne's
Merthyr-Aberdare Steam Coal Company ac erbyn diwedd Rhagfyr
roedd glo o'r lofa'n cael ei arddangos yn Llundain. Partneriaid
y cwmni oedd Matthew Wayne, Thomas Wayne, W.W. Wayne, William
Thomas David, Gwladys David a William Morgan. Roedd y lofa'n
llwyddiannus iawn, ac ym 1840 cludwyd dros 40,000 o dunelli
o lo o'r lofa ar hyd camlas Aberdâr. Caeodd y lofa
ym 1896.
Dde: Glofa Rhif 9 Abernant o eiddo
Richard Fothergill
Chwith: Glofa Lletty Shenkin a gaeodd yn agos i ddiwedd
yr Ugeinfed Ganrif
Yn sgil llwyddiant ariannol eithriadol glofa Abernant-y-Groes,
denwyd diwydianwyr eraill i'r ardal i agor glofeydd eraill,
gan gynnwys: