Fel llawer o bentrefi Cwm Rhondda, cafodd Llwynypia ei enwi ar ôl fferm
cyn dyddiau diwydiant. Dyma ddisgrifiad y teithiwr a'r awdur nodedig o'r bedwaredd
ganrif ar bymtheg, Benjamin Heath Malkin, o'r ardal: ‘a region of beautiful
fields with a magnificent grove at the upper end under the shadow of a towering
rock'.
Ni newidiodd yr ardal fawr ddim tan 1859, pan agorodd
Isaac Smith rheolwr gyfarwyddwr Church Colliery, Pentre,
lefel fechan er mwyn chwilio am lo o dan fferm Llwynypia.
Ar ôl sawl problem, rhoddwyd gorau i'r fenter maes
o law. Ym 1862, cyrhaeddodd gwr o'r enw Archibald Hood
yr ardal, un a fyddai'n rhoi stamp arbennig ar dirwedd
a hanes Llwynypia. Daeth y peiriannydd glo llwyddiannus
ac uchelgeisiol hwn i Gwm Rhondda am y tro cyntaf ym 1860.
Fel rhan o'r Ely Valley Coal Company, llwyddodd Hood i
brydlesu'r gwythiennau glo uchaf yn Llwynypia, a chysylltu
pwll rhif 1 Llwynypia â gwythiennau rhif 2 a 3 Rhondda
ym 1863. Cafodd Hood broblemau lu i ddechrau, yn bennaf
gyda dwr a thywod yn y pyllau.
Uchod: Llwynypia o Ben-rhys
Newidiwyd enw'r cwmni i'r Glamorgan Coal Company yn ddiweddarach, ac ehangodd
Hood y brydles ar diroedd Llwynypia ac agor pyllau newydd i'r gwythiennau glo
ager. Roedd galw mawr am lo o'r ansawdd hwn, a chafodd Hood gryn lwyddiant yma
gan agor pyllau rhif 4 a 5 Llwynypia ym 1873. Erbyn i'r cwmni ddod yn rhan o'r
Cambrian Combine ym 1908, roedd ganddo bum pwll mawr yn cyflogi miloedd o ddynion
a bechgyn lleol.
Yn ogystal â chloddio glo, daeth Llwynypia yn
enwog am gyflenwi glo golosg o'r radd flaenaf oedd yn boblogaidd
iawn ymysg y Morlys a'r marchnadoedd tramor ar y pryd.
Erbyn 1914, roedd 140 o ffyrnau glo golosg yn Llwynypia
yn ogystal â gwaith brics mawr. Pan ddaeth y glofeydd
yn rhan o'r Cambrian Combine ym 1908, defnyddiwyd nwyon
dros ben o'r broses golosgi i gynhyrchu trydan i'r lofa
ac ar gyfer goleuadau stryd yr ardaloedd cyfagos hefyd.
Daeth enw Archibald Hood yn gyfystyr â Llwynypia – roedd
ei lofa'n adnabyddus i drigolion y cylch fel glofa ‘Scotch',
a'r rhesi o dai teras a adeiladodd i'w weithwyr yn cael eu
galw'n rhesdai ‘Scotch'.
Roedd yn ffigwr poblogaidd iawn ymysg ei weithwyr, a
phan fu farw ym 1902, roedd teyrngedau lu yn canmol y modd
roedd yn trin ei weithwyr. Ym 1906, dadorchuddiodd yr Aelod
Seneddol lleol, William Abraham, gerflun o Archibald Hood
y tu allan i Sefydliad y Glowyr Llwynypia, gyda'r rhan
fwyaf o'r arian yn dod o goffrau'r gweithwyr eu hunain.
Yn ogystal â'r tai teras cyfarwydd, roedd dau dy
amlwg iawn yn Llwynypia –Glyncornel a Hen Glyncornel.
Dde: Dadorchuddio cerflun o Archibald Hood ym 1906
Cyn i'r diwydiant glo gyrraedd yr ardal, dim ond fferm
fynydd syml oedd Glyncornel, a oedd yn eiddo i deulu'r
DeWinton ac yn cael ei ffermio gan Thomas Bevan yn y 1840au.
Cododd Hood glamp o d y ar y safle, Hen Glyncornel, ar
gyfer ei fab William Walker Hood. Yna, ar ddechrau'r 1900au,
adeiladwyd Glyncornel House ar lethrau'r bryn uwchben Hen
Glyncornel gan y Cambrian Coal Combine ar gyfer ei uwch
reolwyr, gan gynnwys Leonard Llewellyn. Prynwyd y lle gan
Gyngor Bwrdeistref Rhondda ym 1939, a bu'n ysbyty mamolaeth
tan 1959 ac ysbyty geriatrig ar ôl hynny. Ar ôl
1979, daeth yn Amgueddfa'r Rhondda ac yna'n hostel ieuenctid
a Chanolfan Amgylcheddol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd
Glyncornel fel ysbyty cynorthwyol a chartref i blant faciwîs
anodd eu trin.
Llwynypia yw enw un o brif ysbytai Cwm Rhondda.
Fe'i hadeiladwyd ym mlynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif
fel wyrcws i liniaru'r baich pan oedd wyrcws Pontypridd
yn orlawn. Ehangwyd ac addaswyd yr adeilad maes o law
fel ysbyty cyffredinol cyntaf y Cymoedd.
Chwith: Y cerflunydd Walter Merritt
wrthi'n creu ei gerflun o Archibald Hood, tua 1905. Gosodwyd
y cerflun efydd hwn o flaen Llyfrgell a Sefydliad y Glowyr
Llwynypia ym 1906, a chyfrannodd gweithwyr glofeydd Hood £600
tuag ato.