Cawn gipolwg gwych o ddatblygiad y Maerdy fel tref lofaol ffyniannus yn nodiadau
llyfryn Eos Davies, codwr canu Capel yr Annibynwyr Cymraeg Siloa , ym mlynyddoedd
cynnar yr Ugeinfed Ganrif. Mae'n dweud fel y cafodd y dref ei henwi ar ôl
ffermdy go sylweddol ar lan afon Fechan. Byddai ffermwyr a bugeiliaid y fro
yn ymgynnull yn y ffermdy i drafod busnes a mynychu llys yr ardal yng nghwmni'r
stiward neu'r maer - sy'n egluro tarddiad yr enw ‘Maerdy' felly. Yma hefyd y
cynhaliwyd y cwrdd crefyddol cyntaf a gofnodwyd ym 1877, mewn gwasanaeth ar
y cyd rhwng y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr. Cynhaliwyd y gwasanaeth
yn y parlwr oedd â digon o le ar gyfer 60 o addolwyr, ffaith sy'n rhoi
syniad inni o faint y ffermdy.
Ym 1874, prynodd Mordecai Jones o Aberhonddu a Nantmelyn
y ffermdy a'r tiroedd gyda'r bwriad o agor pwll glo a gosod
cledrau i gysylltu â rheilffordd y Taff Vale. Ym
mis Rhagfyr 1876, cysylltwyd siafft rhif 1 â gwythïen
Abergorky. Cynhyrchwyd can tunnell y dydd o lo, a chyn
pen dim, roedd y Maerdy fel 'Eldorado' yng ngeiriau Eos
Davies. Ar ôl
hynny, cafodd y pyllau eu rhentu allan i Locket's Merthyr Company
a chynyddodd cynnyrch y pyllau o bron i 30,000 o dunelli ym
1879 i dros 160,000 o dunelli erbyn 1884. Ym 1877, dim ond
ffermdy, ychydig o gytiau i'r gweithwyr a 48 o dai oedd yn
y Maerdy.
Uchod: Gorsaf reilffordd y Maerdy tua 1910
Gyda chymaint o weithwyr a'u teuluoedd yn heidio i'r ardal, penderfynodd Bwrdd
Ysgol Cwm Rhondda ym 1880 bod angen agor ysgol yn y Maerdy. Agorwyd ysgol gymysg
y pentref y flwyddyn honno. Cymerodd côr o 200 o blant ran yn y seremoni
agoriadol, a chawsant baned o de a theisen gan Mr. William Thomas, rheolwr cyffredinol
y lofa. Agorwyd tafarn goffi ac ystafell ddarllen ym 1881 i ddiwallu anghenion
y gweithwyr. Ym 1905, adeiladwyd Sefydliad y Gweithwyr ar hen safle'r dafarn.
Roedd Sefydliad y Gweithwyr yn rhan ganolog o fywyd diwylliannol a chymdeithasol
y Maerdy am ddegawdau lawer. Mae Cofnodion Pwyllgor y Sefydliad yn rhestru'r
sefydliadau a ddefnyddiodd yr adeilad rhwng 1918
a 1922 ac yn rhoi blas inni
o gyfraniad y neuadd i gymdeithas y Maerdy, a'r holl glybiau a chymdeithasau
oedd yn bodoli ar y pryd. Cyflwynodd landlordiaid ystâd y Maerdy'r safle
fel rhodd i weithwyr glofeydd y dref, a £9,000 oedd cost adeiladu a dodrefnu'r
neuadd. Adeilad tri llawr ydoedd, gyda neuadd fach, ystafell biliards a swyddfeydd
ar y llawr isaf. Ar y llawr cyntaf roedd ystafell gotiau, ystafell ddarllen
yr un i fenywod a dynion, llyfrgell, ystafell luniaeth, a swyddfeydd, ac ar
y llawr uchaf roedd y neuadd fawr â lle i fil o bobl. Llosgodd yr adeilad
gwreiddiol i'r llawr ym 1922, gan ladd y trysorydd Mr. John Jones. Cafwyd hyd
i'w gorff ym mwthyn y gofalwr drws nesaf i'r prif adeilad. Ail-agorwyd y Sefydliad
ychydig dros ddwy flynedd wedyn ym 1925, ar ôl i'r glowyr lleol godi £20,000
i'w adfer.
Felly, datblygodd y pentref bychan gwledig gwreiddiol i fod yn gymuned lofaol
ffyniannus o dros 880 o dai a thros 6,500 o bobl erbyn 1909. Roedd ganddo ei
ysgol ei hun, capeli a llu o fudiadau cymdeithasol a diwylliannol i ddiwallu
anghenion trigolion y Maerdy ddiwydiannol.
Glofa'r Maerdy
Roedd datblygiad economaidd Cwm Rhondda
Fach ar ei hôl hi o gymharu â Chwm Rhondda
Fawr. Tra'r oedd Cwm Rhondda Fawr yn prysur ddatblygu'n
rym economaidd meysydd glo'r De, ardal wledig yn bennaf
oedd Cwm Rhondda Fach o hyd. Y prif reswm am hyn oedd prinder
cronfeydd glo bitwmen yn y rhan hon o'r Cwm a'i daearyddiaeth
anodd ac anghysbell. Yn y diwedd, y galw cynyddol am lo
ager arweiniodd at drawsnewid y cwm yn ardal ddiwydiannol
hynod boblog ymhen hanner canrif.
Ni ddechreuodd y mentrwyr glo ddangos diddordeb yn y Maerdy
tan y 1870au, dros 60 mlynedd ar ôl i Walter Coffin
agor ei bwll cyntaf ym mhentref Dinas. Mae hanes pwll y Maerdy'n
dechrau ar ôl i Mordecai Jones o Aberhonddu brynu hawliau
mwynol Ystad y Maerdy gan Crawshay Bailey am £122,000
ym 1873. Yna, aeth i gytundeb gydag JR Cobb i gael cyfalaf
ychwanegol i gloddio pwll arbrofol ym 1875. Llwyddwyd i gyrraedd
gwythïen Abergorki ym mis Rhagfyr 1876, ac anfonwyd
y cyflenwad cyntaf o lo o'r Maerdy i Gaerdydd ym 1877. Agorwyd
pwll rhif 2 Maerdy ym 1876, ac yna pwll rhif 3 ym 1893 a
phwll rhif 4 ym 1914. Cafodd y pyllau eu gosod ar brydles
i Lofa Locket's Merthyr ym 1893
Roedd Glofa'r Maerdy yn enwog am ei chysylltiadau milwriaethus
a chomiwynyddol, gyda hen hanes o gyflogi dynion radical
fel atalbwyswyr – dynion fel Arthur Horner, comiwnydd adnabyddus
a dreuliodd gyfnod dan glo am wrthod ymuno â'r brwydro
yn y Rhyfel Mawr. Yr elfen filitaraidd hon, yn enwedig
streic a'r ‘cloi allan' ym 1926, a sbardunodd y gwrthdaro
gyda pherchnogion y pyllau a Ffederasiwn Glowyr De Cymru
maes o law. Cafodd Cyfrinfa'r Maerdy ei diarddel gan y
Ffederasiwn ym 1930. Dyma'r tro cyntaf i'r Maerdy gael
ei ailfedyddio'n ‘Moscow Fach' gan y South Wales Daily
News. Gyda llai o alw am lo ager a'r gwrthdaro cynyddol
rhwng y gweithwyr a'r meistri glo, bu pyllau glo'r Maerdy
yn segur gydol 1927.
Uchod: Pyllau rhif 1 a 2 Glofa'r Maerdy tua 1920
Ym 1932, daeth cwmni Bwllfa and Cwmaman Collieries
Ltd. yn berchen ar Byllau'r Maerdy, gan gau pwll rhif 1 a
rhif 2. Roedd y cwmni hwn yn rhan o'r Welsh Associated Collieries,
a chyfunodd gyda chwmni Powell Duffryn ym 1935 i greu Powell
Duffryn Associated Collieries Limited. Caewyd y lofa gan
y cwmni hwn cyn ei hailagor ym 1938. Cafodd y fasnach allforio
glo ei hatal yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan effeithio'n ddrwg
ar bwll Lofa Mardy fel llawer o lofeydd y De, ac fe'i gorfodwyd
i gau ym 1940.
Ar ôl gwladoli'r lofa ym 1947, daeth yn rhan o Ranbarth De-orllewin,
Ardal 4 Bwrdd Glo Prydain. Ym 1949, cyflwynodd y Bwrdd Glo brosiect mawr gwerth
tua £7 miliwn i aildrefnu a datblygu Glofa'r Maerdy. Roedd y prosiect
yn cynnwys adeiladu glofa fodern ar safle hen byllau rhif 3 a 4, er mwyn cloddio
gwerth 100 miliwn o dunelli o lo yn ôl amcangyfrifon ar y pryd – digon
o waith am gan mlynedd arall.
Trawsnewidwyd yr hen lofa segur yn llwyr gan y prosiect, gan greu pwll o'r
radd flaenaf gyda swyddfeydd gweinyddol newydd, ffreutur, cwt weindio trydanol,
baddonau pen y pwll, canolfan feddygol, a gwaith paratoi glo ar yr wyneb. Adeiladwyd
ffyrdd newydd o dan y ddaear i gysylltu Glofa'r Maerdy â Glofa Bwllfa
yng Nghwm Cynon.
Gyda'r holl fuddsoddiad, roedd hi'n ymddangos fod gan Lofa'r Maerdy ddyfodol
sicr am gan mlynedd. Ond fe newidiodd yr hinsawdd economaidd. Pan gafodd cynnyrch
Glofa'r Maerdy ei godi yng Nglofa'r Twr, Cwm Cynon, ym 1986, gan gyfuno'r ddwy
lofa i bob pwrpas, roedd llawer o'r farn mai dyma ddechrau'r diwedd i Lofa'r
Maerdy. Ac fel yr unig bwll glo oedd yn dal ar waith yng Nghwm Rhondda, byddai
hyn hefyd yn golygu diwedd cyfnod mewn cwm lle bu glo'n teyrnasu am 150 o flynyddoedd.
Bum mlynedd cyn i Lofa'r Maerdy gau am y tro olaf, roedd streic y glowyr 1984/1985
yn arwydd o dranc y diwydiant glo yn y Maerdy. Fe barodd yr anghydfod chwerw
hwn am flwyddyn gron, a threchwyd Undeb Cenedlaethol y Glowyr oedd mor bwerus
ar un adeg. Gwrthdaro rhwng dwy ideoleg oedd yn gyfrifol am yr anghydfod i
raddau – rhwng polisïau adain Chwith arweinydd y glowyr, Arthur Scargill
ac athroniaeth marchnad rydd y Blaid Geidwadol dan law Margaret Thatcher. Prif
asgwrn y gynnen oedd bwriad Bwrdd Glo Prydain i droi'r diwydiant yn fwy proffidiol
yn unol â pholisïau llywodraeth Thatcher. Byddai hynny'n golygu
colli 65,000 o swyddi glofaol a chau cannoedd o byllau.
Ar 6 Mawrth 1984, dechreuodd un o'r streiciau mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol
Prydain, streic a arweiniodd at drechu a chwalu un o undebau llafur mwyaf pwerus
Prydain, Undeb Cenedlaethol y Glowyr, flwyddyn yn ddiweddarach. Yn unol â'i
thraddodiad militaraidd, roedd Glofa'r Maerdy ar flaen y gad yn ystod y streic,
yn trefnu siaradwyr mewn digwyddiadau codi arian ac anfon dynion i bicedu ledled
y wlad (“flying pickets”). Dim ond dau ‘biced symbolaidd' a gafwyd yng Nglofa'r
Maerdy, gan nad oedd dynion y Maerdy'n meiddio croesi'r llinell biced. Roedd
hwn yn gyfnod o galedi mawr i'r streicwyr a'u teuluoedd, a'r cymoedd yn ymdebygu
mwy i ddirwasgiad y 1930au na'r 1980au. Aeth merched y Maerdy ati i sefydlu'r
grwp cyntaf o blithnifer i ddangos cefnogaeth y menywod i'r glowyr, gan
gynnig gwasanaeth hollbwysig i'r streicwyr a'u teuluoedd.
Roeddynt yn brysur yn casglu a dosbarthu bwydydd, yn annerch
cyfarfodydd cyhoeddus a hyd yn oed ymuno â'u gwyr
ar y llinellau piced. Ar ôl i'r streicwyr golli'r
frwydr yn y diwedd, fe ymunodd llawer o fenywod â'r
glowyr a orymdeithiodd yn ôl i'w gwaith ar 5 Mawrth
1985 gan gario baner yr undebau i gyfeiliant band y lofa.
I lawer, yr hoelen olaf yn arch Glofa'r Maerdy oedd ei
chysylltu o dan ddaear â Glofa'r Twr, Hirwaun, ym
1986.
O hynny ymlaen, yng Nglofa'r Twr y codwyd y glo a
dorrwyd yn y Maerdy.
Parhaodd pethau felly tan i'r Lofa gau am y tro olaf ym mis Rhagfyr 1990, ddeng
mis yn gynt na'r disgwyl i'r Bwrdd Glo. Cyfeiriodd cadeirydd cyfrinfa'r Maerdy
o Undeb y Glowyr at hyn fel diwedd cyfnod yn hanes cynhyrchu glo yng Nghwm Rhondda,.
Cyn cau, cafodd rhai o ffrindiau a pherthnasau'r glowyr eu hebrwng o dan y ddaear
i weld yr amodau gwaith, ac i gael darn o lo'r Maerdy o'r wythïen 5 troedfedd
i gofio'r achlysur. Ar ôl y shifft olaf, cynhaliwyd gwasanaeth yn y ffreutur
gyda charolau, darlleniadau a cherddoriaeth gan fand arian y lofa a Tylorstown,
cyn gorymdeithio i'r Neuadd Les i ‘gadw gwylnos'. Yn y diwedd, dim ond 17 o
blith 300 o lowyr y Maerdy benderfynodd fynd i weithio mewn glofeydd eraill.
Gweddillion Glofa'r Maerdy, 1991
Tanchwa Glofa'r Maerdy – Dydd Mercher
23 Rhagfyr 1885
Tua 2.40 p.m. y diwrnod hwn, clywyd ergyd
uchel yn diasbedain uwchben y ddaear yn y Lofa, a cholofn
o fwg a llwch yn codi o'r siafft. Dyma gadarnhau ofnau
pawb oedd yn gyfarwydd â'r diwydiant glo ar y pryd
- sef bod damwain erchyll arall wedi digwydd o dan ddaear,
a bod trasiedi o wedi taro cymuned glos y Maerdy yn sgil
tanchwa yn rhan 'East Rhondda' o Lofa'r Maerdy. Lladdwyd
81 o ddynion a bechgyn i gyd - 63 ohonynt wedi mygu i farwolaeth,
ac 18 wedi marw o'u llosgiadau a'u hanafiadau.
Cwmni Lockett's Merthyr Steam Coal oedd biau'r lofa ar
y pryd, a dim ond ers wyth mlynedd roedd hi'n agored. Y
cyfarwyddwr lleol oedd Mr. William Thomas, a rheolwr y
pwll ers chwe blynedd oedd Mr. Griffith Thomas. Glo ager
a gloddiwyd yno, glo sych a llychlyd dros ben sy'n rhyddhau
llawer iawn o nwyon. Ar y pryd, roedd y lofa hon yn cael
ei hystyried fel un â'r system awyru gorau yn y De.
Roedd gwyntyllau Waddle yn pwmpio aer o'r wyneb i'r pwll,
ac roedd 'chwythwyr' yn y pwll yn awyru unrhyw rannau lle'r
oedd nwyon yn dueddol o grynhoi. Yn wir, cyn 23 Rhagfyr
1885, ni fu damwain angheuol yn y lofa ers iddi gael ei
hagor. Roedd y pwll wedi'i rannu'n ddwy ardal o dan ddaear,
sef y Dwyrain a'r Gorllewin, neu'r ‘Rhondda' ac ‘Aberdâr'
ar lafar gwlad. Roedd 961 o ddynion yn gweithio i'r Lofa
ar y pryd, 200 ar shifft nos a 761 ar shifft dydd. Felly,
roedd 750 o ddynion o dan ddaear am 2.40 o'r gloch y prynhawn,
23 Rhagfyr. Er hynny, dim ond ardal Ddwyreiniol/Rhondda
y lofa a gafodd ei tharo, a llwyddodd gweithwyr yr ardal
Orllewinol/Aberdâr i ddianc yn ddianaf.
Yn syth wedi'r danchwa, aeth tîm achub i'r dyfnderoedd
dan arweiniad Mr. William Thomas, gyda chymorth glowyr
eraill o byllau cyfagos a'r rhai a lwyddodd i ddianc yn
fyw o'r Maerdy. Cafwyd hyd i lawer o gyrff bron yn syth,
ond gan ei bod hi'n anodd cyrraedd y gwaelodion, ni ddaeth
llawer o gyrff i'r wyneb tan y dydd Sul ar ôl y danchwa.
Trwy ryfedd wyrth, ar y prynhawn dydd Mercher, achubwyd
30 o ddynion yn holliach o'r pwll. Roedden nhw wedi bod
yn gweithio 120 o lathenni islaw safle'r ffrwydrad ond
chawson nhw mo'u hanafu. Bu golygfeydd dirdynnol dros ben
pan gladdwyd y meirw ym mynwentydd Glynrhedynog a Llanwynno
ar y Sadwrn, y Sul a'r Llun wedi'r drychineb
Cynhaliwyd cwest crwner i'r drychineb yn y Maerdy Hotel
rhwng 12 ac 18 Ionawr y flwyddyn ganlynol, a chyflwynwyd
adroddiad 'Maerdy Colliery Explosion' gan y Bargyfreithiwr
A.G.C.Liddell ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, i'r ddau dy yn
San Steffan. Mae'n crynhoi dyfarniad y cwest fel a ganlyn:
'We find that an explosion of gas occurred in the Rhondda
District of the Maerdy Colliery on the 23rd December 1885,
whereby Daniel Williams lost his life, but how or where
the gas ignited, sufficient evidence has not been produced
to enable us to determine. We are, however, convinced that
it did not occur from shot firing in the hard heading'.
Roedd adroddiad Mr. Liddell yn hynod feirniadol o weithdrefnau
diogelwch y Lofa ar y pryd, ac nad oeddynt yn cydymffurfio â gofynion
Deddf Rheoliadau Pyllau Glo 1872. Mae'n dweud , 'as regarded
matters left to the discretion of the manager, the constant
care and watchfulness necessary for the safety of a colliery
working so fiery and dusty a coal, had been relaxed at some
points' .
Mae'n tynnu sylw at y ffaith nad oedd baromedr wedi'i osod
mewn lle amlwg wrth fynedfa'r pwll, ac na chafwyd darlleniad
o'r baromedr ar ddiwrnod y drychineb. Roedd hefyd yn feirniadol
o leoliad y lamprwms, a bod fflamau agored yn y siafft aer
rhyngddynt yn ogystal â chaniatâd i ddefnyddio
lampau heb eu cloi. Roedd y rhain yn bell o'r mannau oedd wedi'i
awyru'n dda (sef y siafft aer), ac roeddynt yn agos iawn i'r
lefelydd, felly roedd goleuadau agored yn cario i lawr y pwll
- sefyllfa beryglus yng nghanol yr awyrgylch sych a llychlyd.
Roedd hefyd yn lladd ar y trefniadau i gael gwared ar yr holl
lwch oedd yno a dyfrio'r lle, oherwydd y gallai gormod o lwch
achosi ffrwydrad gwaeth o lawer. Mae'n barnu bod y gwaith pwysig
hwn yn anhrefnus, ac nad oedd swyddog neu ddyn penodol yn gyfrifol
am y gwaith hwn ar amser penodol. Y ffordd arferol o wneud
hyn oedd taflu dwr o fwced neu chwistrellu dwr o faril. Mae
hefyd yn llym ei feirniadaeth o arferion tanio'r Lofa, a
oedd yn beryg bywyd o dan ddaear.
Roedd Deddf Rheoliadau Pyllau Glo 1872 wedi pennu rheoliadau
ar gyfer tanio pelen mewn pwll glo os oedd fflam las i'w
weld yn y lamp ddiogelwch. Yn y sefyllfa hon, ni ddylid tanio
pelen mewn rhan benodol o'r pwll hyd nes y byddai pawb wedi
gadael y lolfa. Roedd rhaid dilyn y rheol hon lle bo'n ymarferol.
Daw Mr Liddell i'r casgliad fod y lofa wedi diystyru'r rheolau
hyn yn fwriadol oherwydd amser ac angyfleustod, a bod fflam
las i'w gweld yn gyson yn lampau Glofa'r Maerdy. Felly, pan
aethpwyd ati i danio pelen ddyddiol yn ardal Gogledd-orllewinol
Glofa'r Maerdy, lle'r oedd 122 o ddynion yn gweithio, dim
ond pump o weithwyr yr union hedin dan sylw oedd wedi cilio
50 llath i ffwrdd o'r safle tanio.
Wrth ddisgrifio'r danchwa ei hun, mae Mr Liddell yn nodi
bod y ffrwydrad wedi ymestyn am ryw filltir. Ar ôl
ystyried y dystiolaeth, fe ddaw i'r casgliad mai tarddiad
y ffrwydrad oedd ardal o'r enw'r ‘North west dip' ger y prif
hedin Gorllewinol. Yna, mae'n trafod dwy ddamcaniaeth ynghylch
union achos y ffrwydrad. Mae'n canolbwyntio ar ardal lle'r
oedd seiri maen wrthi'n adeiladu mynedfa fwaog mewn ceudod
30 troedfedd o uchder a achoswyd gan gwymp - a'r ffaith fod
y ceudod yn lle peryglus lle gallai nwyon grynhoi. Ar ddiwrnod
y ffrwydrad, roedd pump o ddynion (tri saer maen a dau gynorthwyydd)
yn sefyll ar blatfform uwchben y llwybr. Roedd y cynorthwywyr
yn cael defnyddio golau agored/noeth o'r enw 'Comet'. Hefyd,
taniwyd twll drwy hedin yn yr un ardal er mwyn cyrraedd yr
wythïen 4 troedfedd. Doedd fawr ddim llwch yn yr hedin
hwn yn ôl Mr Liddell, a dim olion nwy o gwbl. Oherwydd
hyn, diystyrodd Mr Liddell y posibilrwydd cyntaf fel achos
y drychineb. Dyma ei gasgliadau:
1) 'That the explosion was caused through the ignition
of coal dust in the N.W. dip by the 'comet' lamp used at
the arches. That such coal dust was raised by the concussion
of a blown out shot in the stone heading'.
2) 'That the explosion was caused by the accumulation
of fire damp in the cavity above the arches, and ignited
by one of the masons raising the 'comet' lamp into the
gas'.
O ran y pwynt cyntaf, mae'n dadlau na roddwyd caniatâd
i'r shifft dydd danio pelen ar 23 Rhagfyr. Yn ôl llygad-dystion,
ni thaniwyd un belen er eu bod wedi gwneud twll tanio yn
barod ar ei chyfer. Ar ben hynny, daethpwyd o hyd i gyrff
y pedwar oedd yn gweithio ar yr hedin carreg yn yr hedin
ei hun - pe bai pelen wedi'i thanio, byddai'r dynion wedi
symud i le fwy diogel.
Yn ôl Mr Luddell, mae'n fwy tebygol mai'r ail ddamcaniaeth
achosodd y drychineb er bod digon o amheuaeth i atal rheithgor
y crwner rhag derbyn hynny fel ffaith. Mae wedi seilio hyn
ar nifer o ffactorau. Mae'n honni fod natur y ceudod a'r
ffaith fod y lle gwag ar frig y ceudod uwchben y llwybr anadlu
ar gyfer awyru, yn lle delfrydol i nwy grynhoi. Roedd dyn
tân y lofa wedi gweld fflam las, sef arwydd o nwy,
yn ei lamp ddiogelwch rhyw dri mis cyn y danchwa, ond nad
oedd wedi ysgrifennu hynny yn ei lyfr cofnodion dyddiol.
Ar ôl y ddamwain, ar 31 Rhagfyr, roedd archwiliwr y
gweithwyr wedi canfod nwy yn llenwi'r ceudod hyd at 6 modfedd
uwchben y llwybr awyr - hyn er gwaetha'r ffaith y cymerwyd
gofal ychwanegol i gael gwared ar y nwy o'r ceudod ar ôl
y danchwa. I Mr Liddell, roedd hyn yn awgrymu na wnaethpwyd
digon o ymdrech i atal nwy rhag ymgasglu yn y ceudod. Roedd
cyfeiriad y ffrwydrad, ac nad oedd hi'n debygol fod nwy wedi
crynhoi yn rhannau eraill o'r lefelydd, hefyd yn cadarnhau
ei farn mai dyma lle dechreuodd y ffrwydrad. Er na chafwyd
tystiolaeth derfynol ar union ddigwyddiadau 23 Rhagfyr, roedd
Mr Liddell yn bendant mai'r penderfyniad peryglus i ganiatáu
i ddefnyddio'r ‘Comet' fel y gwnaethpwyd oedd yn gyfrifol.
Beth bynnag oedd union achos y ffrwydrad cychwynnol, daeth
Mr Liddell i'r casgliad na allai'r nwy dan sylw fod wedi
achosi ffrwydrad mor ffyrnig. Felly, mae'n credu mai'r holl
lwch glo yn y lefelydd oedd wedi lledu'r ffrwydrad. Wrth
gyflwyno ei argymhellion i'r Ysgrifennydd, mae'n dweud y
dylid mabwysiadu system reolaidd o ddyfrio a chael gwared
ar lwch y pyllau glo, dan arweiniad swyddog cymwys. Hefyd,
dywedodd na ddylid tanio pelen mewn mannau llychlyd pwll
glo tan hyd nes bod pobman a allai gael eu heffeithio gan
y fflamau fod wedi'u dyfrio'n llwyr i ddechrau.
Ym mis Ionawr wedi'r ddamwain, cyhoeddwyd bod y pwll yn
ddiogel unwaith eto. Aeth y glowyr a lwyddodd i oroesi'r
danchwa yn ôl i weithio yn yr union fan lle bu farw
cymaint o'u cydweithwyr.
Rhwng mis Rhagfyr 1969 a mis Ionawr 1970,
bu bron i'r Maerdy gael ei daro gan drychineb enfawr a
fyddai wedi creu dinistr enbyd yng nghymunedau Cwm Rhondda
Fach i gyd. Canolbwynt y digwyddiad dramatig hwn oedd argae
a chronfa ddwr Lluest Wen (adeiladwyd ym 1898) a oedd yn
cwmpasu 20 erw ac yn dal hyd at 242 miliwn o alwyni o ddwr.
Roedd yr argae uwchben tre'r Maerdy ym mhen uchaf Cwm Rhondda
Fach.
Yr awgrym cyntaf fod rhywbeth o'i le oedd pan roedd dyn
lleol o'r enw Lynn Jones yn marchogaeth ar gefn ei geffyl
Sally ger yr argae ar 23 Rhagfyr. Cwympodd y ceffyl i dwll
pum troedfedd o ddyfnder, chwe throedfedd o hyd a dwy droedfedd
o led, a ymddangosodd mwya'r sydyn. Rhedodd Mr. Jones am
ddwy filltir i Lofa'r Maerdy i gael cymorth, a bu dynion
tân a gweithwyr coedwigaeth wrthi am ddwy awr yn
ceisio rhyddhau'r ceffyl. Ffoniodd y swyddogion tân
y bwrdd d w r i archwilio'r argae.
Ar ôl hynny, ysgrifennodd Mr. D.G. Gamblin, peiriannydd
ymgynghorol Bwrdd D w r Taf Fechan adroddiad ym mis Ionawr
gan nodi y gallai'r argae fod mewn cyflwr difrifol. Agorwyd
canolfan argyfwng ar unwaith yn Teify House, y Maerdy.
Roedd swyddogion yn amcangyfrif y byddai ton lanw ugain
troedfedd o uchder yn sgubo i lawr y cwm pe bai'r argae'n
torri. Trefnwyd cynlluniau brys i wagio'r ardal, a chafodd
350 o drigolion hen a methedig eu symud o safleoedd tir
isel y Maerdy i ddiogelwch. Caewyd Glofa'r Maerdy a saith
o ysgolion y cylch hefyd, a symudwyd y plant i ysgolion
mewn safleoedd fwy diogel. Gwnaeth George Thomas, Ysgrifennydd
Gwladol Cymru ar y pryd, ei orau glas i sicrhau'r trigolion
y byddent yn cael rhwng 2 a 4 awr o rybudd a digonedd o
amser i adael pe bai'r argae yn torri. Cafodd rhagor o
heddlu eu hanfon i'r ardal ac roedd ambiwlansys wrth gefn
yn barod i symud pawb o'r ardal pe bai angen hynny. Gyda
llawer yn ofni'r gwaethaf, gadawodd pobl eu cartrefi a
symud i'r canolfannau dros dro er bod yr awdurdodau'n ceisio
eu darbwyllo i bwyllo am y tro. Roedd yr heddlu a'r gwasanaethau
brys yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa, a'r radio ymlaen
drwy'r amser rhag ofn y doi'r neges frys i wagio'r ardal.
Bu nifer o broblemau wrth geisio dod o hyd i'r nam yn
yr argae, a'i drwsio wedyn. Wrth i'r peirianwyr geisio
cyrraedd gwaelod twr y llifddorau, daethant ar draws wal
nad oeddynt yn ymwybodol ohoni yn y twnnel cyswllt. Felly,
roedd y wal yn eu rhwystro rhag cyrraedd gwaelod y twr
lle'r oedd y nam posib.
Y cynllun nesaf oedd draenio d w r o'r gronfa er mwyn
lleihau'r pwysau ar yr argae. Ond cododd problem arall
wedyn wrth i gerbydau trwm y contractwyr, a oedd yn cludo
pibelli a phympiau i'r gronfa ddwr, droi'r ffordd fynediad
yn fôr o fwd nes ei bod hi'n amhosib mynd arni. Felly,
defnyddiwyd hofrennydd y Llu Awyr i gludo'r cyflenwadau
i'r safle, ac aeth milwyr ati i osod ffordd amgen ar hyd
llwybrau'r Comisiwn Coedwigaeth ar Fynydd Rhugos. Diolch
i ymdrechion ar y cyd rhwng y Llu Awyr, y gwasanaeth tân,
y Bwrdd D wr ac eraill, llwyddwyd i bwmpio'r dwr o'r argae
a lleihau perygl i'r argae dorri a gorlifo'r cwm islaw.
O'r diwedd, clywyd y caniad diogelwch ar 25 Ionawr 1970,
a gollyngodd trigolion y Maerdy a gweddill Cwm Rhondda
Fach ochenaid o ryddhad ar ôl llwyddo i osgoi trychineb
posib.