Ffrwd Amos oedd enw'r ardal hon yn wreiddiol yn ôl map degwm y 1840au,
fel y tystia stryd o'r enw ‘Amos Hill' heddiw. Pen-y-Graig oedd enw pwll glo
cynta'r ardal, a buan y cafodd ei fabwysiadu fel enw'r pentref a ddatblygodd
o'i gwmpas.
Datblygodd Pen-y-graig fel pentref yn sgil y diwydiant glo. Cyn hyn,
roedd eisoes yn ganolfan grefyddol i'r Bedyddwyr Cymraeg yng nghanol Cwm Rhondda.
Yn ôl ‘Soariana', Hanes Eglwys y Bedyddwyr Cymraeg Soar a gyhoeddwyd
ym 1905, dechreuwyd achos y Bedyddwyr ym Mhen-y-graig a Dinas gan Mr. William
David. Ar ôl symud i'r ardal ym 1811 fel goruchwylydd Glofa Dinas a
thafarnwr y White Rock, neilltuodd ystafell yn White Rock Terrace i gynnal
cyfarfodydd crefyddol. Cynhaliwyd cyrddau yma ac yn Ysgol Penygelli, ac ym
1830 prynwyd darn o dir yn Ffrwdamos i adeiladu Capel Soar. Agorwyd y capel
yn swyddogol ym 1832, ar gost o £300. Fe'i hailadeiladwyd ym 1858, ei
ehangu ym 1875, a'i ailadeiladu eto ym1903.
Uchod: Pen-y-graig tua 1900
Dechreuwyd cloddio glo ym Mhen-y-graig
ym 1857 ar ôl i Thomas Ellis agor cloddfa ddrifft i'r wythïen glo
bitwmen. Yna ym 1858, agorwyd gwythïen rhif 2 Rhondda yn lefel lo Pen-y-graig
gan Moses Rowlands a Richard Jenkins. Ymunodd Rowlands â William Williams,
William Morgan a John Crockett i sefydlu Penygraig Coal Company, a aeth y
cwmni ati i agor Glofa Pen-y-graig. Cysylltwyd y pwll hwn â gwythïen
rhif 3 Rhondda, ac fe aeth o nerth i nerth, gan gynhyrchu bron i 100,000 o
dunelli'r flwyddyn erbyn 1870. Agorwyd siafft newydd, Pwll y Pandy, gan y
Naval Colliery Company, a llwyddwyd i gyrraedd yr haenau glo ager ym 1879.
Ar ôl sawl anhawster, gwerthwyd y pwll i'r New Naval Colliery Company
ym 1887. Ar ôl ymestyn y prydlesi oedd ganddynt eisoes, aethant ati
i agor tri phwll newydd, ‘Ely', ‘Nantgwyn' ac ‘Anthony'. Daeth y cwmni'n rhan
o'r Cambrian Combine maes o law.
Glofa Ely, Pen-y-graig oedd lleoliad y streic a arweiniodd at Anghydfod Glofa'r
Cambrian, un o'r helyntion mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol Prydain, a ddaeth
yn enwog fel Terfysgoedd Tonypandy. Dechreuodd yr helynt dros gyflogau am gloddio
gwythïen newydd, a gwaethygodd pethau ar ôl i'r rheolwyr gau'r gweithwyr
allan o lofa Ely a sbarduno streiciau yn holl byllau'r Combine. Bu sawl trychineb
yng nglofeydd Pen-y-graig oedd yn pwysleisio natur beryglus y diwydiant glo.
Gorlifodd un o'r pyllau ar 4 Rhagfyr 1875, gan foddi dau weithiwr a pheryglu
bywydau llawer o lowyr eraill. Bu trychineb arall yng Nglofa Naval ym mis Rhagfyr
1880, a dyma ddisgrifiad yr adroddiad swyddogol o'r drychineb:
‘One hundred and one lives were lost in an explosion which occurred at the Naval
Steam Coal Colliery at Penygraig belonging to Messrs. Rowlands and Morgan about
1.30a.m. on the morning of Friday 10th December 1880. Only five men of all who
were in the colliery survived.'
Ym mis Ionawr 1884, cafodd 14 o ddynion eu lladd mewn
tanchwa yn yr un lofa – 11 yn sgil y ffrwydrad a 3 wedi'u
mygu i farwolaeth. Yna ym mis Awst 1909 cafodd 6 o ddynion
eu lladd ac 18 eu hanafu'n ddifrifol mewn damwain rhwng
dau gaets. Roedd un caets yn llawn dynion oedd ar fin dechrau
eu shifft.
Ym Mhen-y-graig y sefydlwyd un o gymdeithasau cydweithredol
(y Co-op) cyntaf a mwyaf llwyddiannus Cwm Rhondda. Hefyd,
agorwyd gorsaf ar lein reilfordd Great Western ym 1860
oedd yn cysylltu lefel Pen-y-graig â Llantrisant
a phrif lein reilffordd y De.
Dde: Capel Soar
CYMDEITHAS GYDWEITHREDOL DDIWYDIANNOL
PEN-Y-GRAIG
Uchod: Hen adeilad y Co-op, Tylacelyn Road tua 1988
Arloeswyr Rochdale sefydlodd y gymdeithas gydweithredol gyntaf ym 1844, oedd
yn seiliedig ar ychydig o egwyddorion syml. Roedd pob aelod yn gorfod buddsoddi
yn y Gymdeithas trwy brynu cyfranddaliadau, a byddai holl nwyddau'r siopau yn
cael eu gwerthu am bris teg a'r holl elw'n mynd yn ôl i goffrau'r gymdeithas
a'i haelodau trwy ddifidend wedi'i seilio ar faint o gyfranddaliadau a brynwyd.
Er bod pob cangen o'r gymdeithas yn rhan o'r rhwydwaith cydweithredol, roeddynt
yn cael eu sefydlu a'u cynnal yn lleol.
Ym 1941, cyhoeddodd Cymdeithas Gydweithredol Pen-y-graig lyfryn i ddathlu hanner
canrif ers sefydlu'r gymdeithas yn y pentref. Mae'r llyfryn hwn yn crynhoi blynyddoedd
cynnar y gymdeithas ym Mhen-y-graig, ac ymdrech arloeswyr y Gymdeithas i sicrhau
ei fod yn llwyddo. Mae hanes y Gymdeithas ym Mhen-y-graig yn dyddio'n ôl
i 1891, pan gyhoeddodd Morgan Thomas, Obadiah Williams a David Williams ymysg
eraill eu bwriad i sefydlu cymdeithas gydweithredol mewn cyfarfod yn The Butchers
Arms. Roedd llawer o drigolion yr ardal yn gwrthwynebu hyn, gan fod nifer wedi
colli'u harian mewn cymdeithas aflwyddiannus yn Nhonypandy ychydig flynyddoedd
ynghynt.
Gan fod cymaint o bobl yn erbyn cynnal cyfarfodydd yn y dafarn, cynhaliwyd cyfarfodydd
y Gymdeithas yn nhafarn goffi Fosters o hynny ymlaen. Cytunodd 46 o bobl i ymaelodi
â'r Gymdeithas i ddechrau, a chafodd Morgan Thomas ei ddewis fel y Cadeirydd
cyntaf, Obadiah Williams yn Ysgrifennydd a David Williams yn Drysorydd. Prynwyd
adeilad y siop am £950 gan Moses Rowlands (benthycwyd yr arian gan dad-yng-nghyfraith
rheolwr cynta'r Gymdeithas) a chafodd Evan Treharne ei benodi'n rheolwr ar gyflog
o ‘£8 y mis lleuad', a £2 i'w wraig. Dewiswyd nod masnach gwenynen,
dosbarthwyd hysbyslenni, archebwyd llyfrau difidend a llyfrau'r siop a phrynwyd
gwerth £250 o nwyddau ar gyfer y siop. Ar ôl cymeradwyo rheolau
a rheoliadau'r Gymdeithas, cafodd ei sefydlu'n swyddogol ar 8 Awst 1891.
Roedd blynyddoedd cynnar y Gymdeithas braidd yn anodd,
gydag ond 120 o aelodau erbyn 1901 a dim ond rhyw £100
o werthiant wythnosol. Newidiodd hyn yn sgil penodi rheolwr
newydd, William Job, a aeth ati i ailwampio pethau'n sylweddol
yn ystod ei ddaliadaeth. Erbyn 1937, roedd gan y Gymdeithas
6,200 o aelodau a thros £6,000 o drosiant yr wythnos.
Yn ystod cyfnod William Job fel rheolwr, agorodd y Gymdeithas
fecws newydd ym Mhen-y-graig ynghyd â changhennau
yn Nhonyrefail, y Gilfach-goch, Coed-elái a Williamstown;
a symudodd y Gymdeithas o'i hadeilad gwreiddiol i'w chartref
newydd yn Tylacelyn Road.
Daeth manteision y Gymdeithas Gydweithredol i'r amlwg yn
ystod anghydfod chwerw Glofa'r Cambrian a'r ‘cloi allan'.
Ar ddechrau'r anghydfod, penderfynodd y Pwyllgor Rheoli ganiatáu
i'r aelodau oedd ar streic gael gwerth 15 o nwyddau'r wythnos
er mwyn lleddfu tlodi eu teuluoedd. Wrth i'r streic barhau,
apeliwyd am gyfraniadau gan ‘gyd-gydweithredwyr' ledled y
wlad er mwyn rhoi 4 swllt i deulu bob aelod oedd ar streic,
a 6 cheiniog i bob plentyn erbyn y Nadolig. Hefyd, gofynnwyd
i staff siopau'r Co-op roi ystyriaeth ofalus a charedig i
ddyledion yr aelodau, a chyflenwodd y Gymdeithas nwyddau
rhatach i Bwyllgor y Glowyr ar gyfer y ceginau cawl. Talodd
haelioni'r Gymdeithas at y glowyr ar ei ganfed ar ôl
i'r streic ddod i ben, pan ddyblodd nifer yr aelodau yn y
tair blynedd dilynol.
Yn yr un modd, yn ystod streic 1926, rhoddodd y Gymdeithas
gredyd i'w haelodau o ddwy ran o dair o'u bil siopa wythnosol
cyfartalog am y pedair wythnos gyntaf, yna hanner eu bil
am y mis dilynol, dwy ran o bump am y tair wythnos ar ddeg
ganlynol a thair rhan o ddeg am bum wythnos. Cafodd hyn
ei ostwng wedyn i un rhan o bump tan ddiwedd y locowt,
oedd yn golygu bod glowyr o leiaf yn gallu rhoi ychydig
o fwyd ar fwrdd y teulu. Roedd gan y Gymdeithas ran gymdeithasol, ddiwylliannol
ac addysgol i'w chwarae yn ogystal ag ariannol. Trwy'r
pwyllgor addysgol, trefnwyd dosbarthiadau i'r aelodau a
phlant yr aelodau, sefydlwyd corau, trefnwyd cyngherddau
ac eisteddfodau, cyflwynwyd grantiau addysgol a threfnwyd
darlithoedd a dangoswyd ffilmiau.
Roedd y Gymdeithas yn ffynnu, ac ym 1931, fe'i disgrifiwyd
fel y lle prysuraf ym Mhen-y-graig, yn llawn pobl yn codi
arian difidend a chyfranddaliadau, yn casglu tocynnau ar
gyfer triniaeth ysbyty, yn cyflwyno arian i gyfrif cynilo
ac yn defnyddio llu o wasanaethau eraill y Gymdeithas.
TRYCHINEB GLOFA ELY, PEN-Y-GRAIG 1909
Am 5.50 o'r gloch y bore, 27 Awst 1909, siglwyd pwll glo'r
Ely (un o dri phwll Naval Colliery Company) i'w seiliau
wrth i 28 o lowyr fynd o dan ddaear i ddechrau gweithio.
Lladdwyd saith o lowyr ac anafwyd 21 ohonynt yn y man.
Roedd y caets yr oedd y dynion yn teithio ynddo wedi
cyflymu yn lle arafu wrth gyrraedd pen y daith, gan daro'n
galed yn erbyn llawr y siafft. Oherwydd hyn, saethodd
y caets gwag arall i ben y pwll, torrodd y rhaff, a disgynnodd
y caets gwag yn
ôl i'r gwaelodion cyn glanio ar y caets arall a lladd rhai o'r dynion
oedd ynddo. Dyma ddisgrifiad papur newydd y Rhondda Leader o'r digwyddiad erchyll: ‘Five
of those in the upper deck (of the cage) being instantaneously killed, while
the more seriously injured died soon after they were released. Two of the killed
were severely mangled, whilst another was almost decapitated. Those in the
lower bond fared better than their unfortunate comrades, and all of these escaped
with their lives though some were badly injured sustaining fractures of limbs
and body.'
Aeth tîm achub dan arweiniad Mr. Trevor Price y
rheolwr cynorthwyol cyffredinol (roedd y rheolwr cyffredinol,
Mr. Leonard Llewellyn, ar wyliau yn yr Alban ar y pryd)
a'r Doctor Llewellyn a Doctor Weichart o dan ddaear er
mwyn trin y rhai oedd wedi'u hanafu. Roedd rhaid defnyddio
Pwll y Pandy (pwll glo cyfagos arall y cwmni) i gyrraedd
y trueiniaid. Gan fod yr offer weindio wedi difrodi'n llwyr,
roedd rhaid cludo'r meirw a'r clwyfus ar hyd y talcenni
glo ac i fyny Pwll y Pandy. Lledodd y newyddion fel tân
gwyllt drwy'r ardal, ac ymgasglodd cannoedd o bobl ar ben
y pwll i ddisgwyl am hanes eu ffrindiau a'u hanwyliaid.
Mae'r papur newydd yn cynnwys disgrifiadau byw gan rai
a lwyddodd i oroesi'r drychineb. Un ohonynt oedd Phillip
Pascoe, a oedd wedi'i hyfforddi fel dyn ambiwlans ac a
gafodd ei ganmol i'r cymylau am helpu dioddefwyr eraill
er iddo gael mân anafiadau ei hun. Mae'n disgrifio
i'r caets ddod i stop yn sydyn cyn disgyn ar wib i'r gwaelod.
Ar ôl taro'r llawr, y cwbl a glywai yn y tywyllwch
dudew oedd dynion yn griddfan mewn poen a malurion yn disgyn
i lawr y siafft a swn y caets gwag yn hyrddio heibio. Mae'n
dweud eu bod yn gaeth o dan y ddaear am ryw awr cyn i'r
tîm achub lwyddo i basio lampau trwy dwll bach yn
y planciau i'r caets. Llwyddodd Pascoe i helpu bachgen
o'r enw Fry i fynd drwy'r twll hwnnw, cyn ymdrechu i gael
Noah Matthews, oedd wedi torri'i goes, ar ei ôl.'
Pan holodd gohebydd y papur newydd a fyddai Pascoe wedi
gallu dianc yn yr un modd, atebodd y byddai wedi gallu
gwneud hynny, ond iddo benderfynu aros yn y fan a'r lle
er mwyn helpu eraill pan oedd mewn poen ofnadwy. O'r diwedd,
llwyddwyd i ryddhau gweddill y dynion o'r caets, diolch
i gymorth arwrol James Vaughan ac eraill, gan gynnwys Tom
Rowlands, Edward Hodge ac Idris Roberts, Trealaw, David
Lewis, Stephen Davies a Tom Connel, Pen-y-graig. Pascoe
oedd yr olaf i adael y caets, a dim ond wrth gerdded adref
y sylweddolodd ei fod wedi cael briw ac wedi sigo/troi
ei goes a'i glun. Un arall a ganmolwyd am ei ddewrder oedd
James Vaughan, bachwr/harneisiwr oedd ar ddyletswydd ar
lawr y pwll pan ddigwyddodd y ddamwain. Yn syth ar ôl
y ddamwain, aeth i chwilio am olau i ryddhau'r dynion o'r
caets. Yna, aeth ati i ryddhau'r rhai oedd ar ddec ucha'r
caets cyn helpu'r rhai o'r dec isaf. I wneud hyn, roedd
yn gorfod symud y planciau coed o'r swmp yn y siafft agored
er gwaethaf perygl y malurion yn disgyn arno. Dyma glod
y papur ohono: ‘He..set about his work without thought
of himself, and assisted by others he eventually managed
to release all the men in the lower bond, who were handed
to him by Pascoe through the aperture made by removing
the planks.'
Cafwyd hanes yr angladdau yn yr un papur newydd yr wythnos
ganlynol:
‘The funeral of the victims of the Ely Pit disaster
took place on Tuesday last, the remains of T.H.Brown,
Alf Watkins, Morgan Evans, and the boy Reginald Jenkins
being interred at Llethrddu Cemetery, Trealaw whilst
those of Gideon Chapman found a last resting place at
Tonyrefail. The new arrangements under the Eight Hours
Act enabled the workmen of various pits to attend the
final obsequies in large numbers. Contrary to the usual
practice in Welsh funerals, there was no singing, the
cortege being headed by the Salvation Army Band playing
the ‘Dead March' in Saul. The whole locality showed signs
of mourning, all business premises being closed as the
cortege passed. Short services were held at the private
homes of the deceased, conducted by the Revs. H. Parry,
J. Richards Pugh, G. Evans and Emrys Jones. Who also
officiated at the graveside. Amongst the mourners were
Mr. Leonard Llewellyn general manager of the Cambrian
Trust, representing the directors. Mr. Trevor Price,
sub agent, and Mr. Hollister, manager of the Naval Pits
with Drs. Llewellyn and Weichart. The coffins were covered
with beautiful flowers sent by sympathetic relatives
and friends. Large crowds lined the route as the long
procession filed by.'
Mewn cwest i'r drychineb, barnwyd mai sbaner tu chwith mecanwaith
y caets oedd wedi achosi'r ddamwain. Roedd y sbaner dan sylw
wedi hollti eisoes, ond fe'i hatgyweiriwyd yn hytrach na
gosod un newydd yn ei le.