Mae Tylorstown wedi'i enwi ar ôl Alfred Tylor, gwr o Lundain a brynodd
hawliau mwynol fferm Pendyrus ym 1872 cyn mynd ati i agor glofa gynta'r pentref,
Glofa Pendyrus. Mae map degwm 1847 yn dangos mai dim ond ffermydd gwasgaredig,
caeau a dolydd ffrwythlon a choedwigoedd derw eang oedd ym Mhendyrus, fel gweddill
y cwm ar y pryd.
1872 oedd blwyddyn geni'r diwydiant glo yn Tylorstown a'r pentref ei hun mewn
gwirionedd. Dyma'r adeg y prynodd Alfred Tylor o Newgate Street, Llundain hawliau
mwynol fferm Pendyrus ac agor yr ail lofa fwyaf yng Nghwm Rhondda Fach. Er hynny,
cafwyd trafferthion mawr wrth agor y pwll cyntaf ac ni lwyddwyd i ddarganfod
y gwythïennau glo ager cyntaf tan 1876, 333 o lathenni islaw'r ddaear.
Anfonwyd y llwyth cyntaf o lo ager ar y Taff Vale Railway i Gaerdydd ym 1877,
ac aeth Glofa Pendyrus o nerth i nerth wedyn, gan gynhyrchu 3,252 o dunelli
ym 1877 a chynyddu i 241,061 o dunelli erbyn 1893. Prynodd David Davis and Sons
Co. y lofa ym 1894.
Uchod: Tylorstown tua 1900
Daeth gweithwyr o bell ac agos i weithio yn y pentref
mwya'r sydyn, gan arwain at orboblogi difrifol ac amodau
byw gwael. Roedd gweithwyr cyntaf Glofa Pendyrus yn gorfod
byw mewn cytiau pren wedi'u hadeiladu ar frys. Prin iawn
oedd y cyfleusterau i ddechrau, fel y disgrifiodd E.D.
Lewis yn ei waith, ‘The Rhondda Valleys: ‘…in many
of these hastily erected townships of the Rhondda in the
early days of the ‘coal rush', life bore a strong resemblance
to the frontier townships of the United States.' Mae'r
ffaith mai cwmni Tylor and Co. oedd yn gyfrifol am y cyflenwad
dwr i gartrefi Tylorstown yn dangos y graddau yr oedd y
gweithwyr wedi eu clymu i'r lofa leol. Cafodd Tylorstown
ei siâr o drychinebau hefyd, pan laddwyd 57 o lowyr
mewn tanchwa ym 1896.
Uchod: Llewellyn Street tua 1900
Mae byd o wahaniaeth rhwng y ddelwedd o Tylorstown fel ‘frontier
town' yn y 1870au â'r disgrifiad o'r dref
lai na 30 mlynedd yn ddiweddarach yng Nghyfeirlyfr Busnesau
Kelly 1906. Mae'n disgrifio Tylorstown fel pentrefan
7 milltir i'r gogledd-gogledd-orllewin o Bontypridd,
gyda'i gorsaf ei hun ar lein Taff Vale Railway. Roedd
yno eglwys, ‘Y Drindod Sanctaidd' a godwyd ym 1883 am £1,400,
swyddfeydd post a swyddfa delegraff, oedd hefyd ar agor
ar y Sul.
Roedd 13 o addoldai Cymraeg a Saesneg yn y dref, gan gynnwys
y Bedyddwyr, Methodistiaid Calfinaidd, Annibynwyr a'r Wesleaid.
O ran byd masnach, roedd yno fasnachwr gwin a gwirodydd,
warws esgidiau, gwneuthurwr watshis a chlociau, gwerthwr
llaeth, gwerthwr llestri, gwerthwr pysgod wedi ffrïo,
dilledydd a siop ddillad, cangen y London and Provincial
Bank, Sefydliad Cerddorol Band Tylorstown, Sefydliad a
Chlwb Ceidwadwyr Tylorstown, Llyfrgell a Sefydliad Tylorstown,
a llu o siopau cyffredinol, cigyddion, groseriaid ac ati.
Felly, llwyddodd Alfred Tylor a'i olynwyr i drawsnewid pentref
bach gwledig anghysbell, prin ei boblogaeth, i fod yn dref
lofaol ffyniannus dros ben.
Chwith: Swyddogion Glofa Cynllwyn-Du
TANCHWA GLOFA TYLORSTOWN, DYDD LLUN 27 IONAWR 1896
Mae papur newydd y Rhondda Chronicle yn
disgrifio sut y daeth Cwm Rhondda yn ganolbwynt tristwch
a thrychineb unwaith eto ychydig flynyddoedd yn unig wedi'r
danchwa ddiwethaf mewn pwll glo yn yr ardal. Mae'n mynd
ymlaen i ddisgrifio, ‘the Angel of Death had been at
his dread task mowing down the colliers who were finishing
their nights work in the Tylorstown colliery'. Mae'r
adroddiad yn sôn am y miloedd o bobl o ardal Merthyr
Tudful, Aberdâr a Chwm Rhondda oedd ar bigau'r drain
wrth ben y pwll, yn disgwyl am newyddion am y glowyr druan
yn nyfnderoedd y ddaear. Mae'r papur newydd hefyd yn disgrifio'r
angladdau niferus a'r holl bobl a ddaeth i dalu teyrnged
ym mynwentydd y cylch (Mynwent Llethr-ddu, Mynwent y Maerdy
a mynwent Eglwys Llanwynno) a'r cyrff a gludwyd ar drenau
i'w claddu yn Aberystwyth, Sanclêr, Cheltenham a'r
Trallwng.
Tua 5.30 y bore y bu'r danchwa yn Tylorstown, pan oedd
y rhan fwyaf o'r gweithwyr shifft nos yn cyrraedd y brig
ar ôl gorffen eu gwaith, a chyn i'r gweithwyr shifft
dydd fynd o dan y ddaear. Felly, byddai llawer mwy na 57
o weithwyr wedi'u lladd pe bai'r ffrwydrad wedi digwydd
yn ystod y shifft lawn pan fyddai dros 300 o weithwyr o
dan y ddaear.
Cynhaliwyd cwest i'r danchwa rhwng 18 a 25 Chwefror, a
dyma ddyfarniad y rheithgor,
‘…the cause of the explosion was the firing of a shot
in gas in Daniel William's stall in No.8 pit and that the
air passing through the faces was charged with gas….and
the explosion was accelerated by coal dust. Also that no
one now living was responsible for the explosion'.
Ysgrifennodd Robert Woodfall a J.T. Robson, Arolygwyr pyllau
glo ardal De Cymru adroddiad am y ffrwydrad. Roeddynt yn
disgrifio'r pwll, a oedd yn eiddo i D. Davies and Sons Ltd.
(rhan o'r Ferndale Coal Company), fel un sych a llychlyd,
gan feirniadu effeithiolrwydd dyfrio'r pwll. Disgrifiwyd
y pwll fel lle ‘tanllyd' a bod angen polisi lampau ar glo
heb unrhyw fflam agored heblaw yn y sied lampau, ac na chaniatawyd
unrhyw danio yn ystod shifft. Er bod cryn dipyn o nwy yn
y pyllau, ni adawyd i nwy grynhoi yno. Mewn gwirionedd, cafodd
nwy ei ganfod a'i wasgaru yn ffas lo Daniel Williams, lle
y credir i'r ffrwydrad ddechrau, mor ddiweddar â 10
Ionawr. Wrth grynhoi, dywedodd yr Arolygwyr mai taniwr esgeulus
a daniodd ergyd yn ffas lo Daniel Williams a achosodd y danchwa,
ac y dylai fod yn gwybod fod nwy yn y ffas lo a'r cyffiniau.