Hen enw Cymraeg am lawr y dyffryn yw Ystrad, a chredir
fod yr enw Ystrad yn tarddu o hen elw'r plwyf sef Ystradyfodwg.
Credir mai disgybl Illtud Sant oedd Tyfodwg. Mae sawl enw
hanesyddol yn perthyn i'r ardal, gyda chofnodion cynnar
yn sôn am Ynys Fach a mapiau Arolwg Ordnans cynnar
yn cyfeirio ati fel Heol Fach.
Yn ei lyfr ‘Itinery' ym 1538, mae'r awdur a'r teithiwr cynnar
John Leland yn dweud mai dim ond un plwyf oedd yn ‘Glin Rodenay'
(Glynrhondda), sef ‘Ystrate', ond mae map John Speed (1611)
yn cyfeirio ato fel rhan o Lanwynno. Mae llyfr C.F. Cliffe, ‘The
book of South Wales, the Bristol Channel, Monmouthshire and
The Wye' yn disgrifio Ystradyfodwg cyn y cyfnod diwydiannol.
Mae Cliffe yn dweud iddo aros mewn llety cyntefig o'r enw ‘Gellidawel'
yn Ystrad, a oedd yn lle pwysig i ffermwyr y fro gyfarfod
a masnachu.
Datblygodd Ystradyfodwg fel croesfan bwysig i lwybrau
hynafol Cwm Rhondda, gan gynnwys y prif lwybr trol dros
fynydd Pen-rhys i Gwm Rhondda Fach. Fel arwydd o bwysigrwydd
yr ardal, adeiladwyd melin ddwr, Melin yr Om (neu ‘Melynydd
Dee' ar fap 1633) yno gan fynachod Pen-rhys mwy na thebyg.
Felly, daeth Ystradyfodwg yn ganolfan o bwys yng nghefn
gwlad Cwm Rhondda.
Roedd Ystradyfodwg felly'n lle delfrydol i godi'r Capel
y Bedyddwyr cyntaf yng Nghwm Rhondda. Adeiladwyd Capel
Nebo ym 1786 am £60. Yn ogystal â bod yn rhan
bwysig yn hanes Anghydffurfiaeth y fro, roedd y capel yn
rhan allweddol yn addysgol hefyd. Mewn cyfnod pan oedd
addysg mor brin, fe ddysgodd plant cefn gwlad Cwm Rhondda
i ddysgu darllen ac ysgrifennu yn Ysgol Sul Capel Nebo.
Dde: Capel Nebo
Glofa Bodringallt
Un enw sy'n gysylltiedig ag Ystradyfodwg ers y dyddiau
cynnar yw Bodringallt (annedd rhwng dwy allt, cartref llwynogod
neu gartref gwysiwr). Mae llu o chwedlau lleol yn ymwneud â Bodringallt
House, gyda rhai'n dweud mai ‘Cadwgan y Cadfwyell' oedd
yn byw yma, a bod twnnel tanddaearol yn ei gysylltu â mynachlog
Pen-rhys. Rhoddwyd yr enw Bodringallt ar ysgol, glofa,
capel a fferm leol. Doedd Ystradyfodwg heb newid fawr ddim
mewn dau gan mlynedd. Ond, fel ardaloedd gwledig eraill
Cwm Rhondda, daeth newid byd mawr yng nghanol y bedwaredd
ganrif ar bymtheg wrth i bobl ddechrau datblygu adnoddau
mwynol cyfoethog y cylch. Mae yna dystiolaeth i drigolion
lleol gloddio ar raddfa fach iawn am lo ym Modringallt
yn y 1840au – er na fu mwy na chwe
dyn wrthi ar y tro erioed. Erbyn i'r gwaith cloddio ehangu
yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd glowyr
lleol yn ddigon abl i dorri trwyddo i byllau oedd wedi hen
gau. Dechreuwyd cloddio o ddifrif yn Ystradyfodwg yn y 1850au,
gyda nifer o lofeydd a gwythiennau llai yn cael eu hagor.
Agorwyd lefel Gelligaled gan David Jones, Glofa Gelligaled
gan VL Lewis, a lefel Bodringallt gan David Jones a David
James (perchennog Glofeydd y Porth a Llwyncelyn). Gyda'r
fath brysurdeb, aeth cwmni Taff Vale Railway ati i ehangu'r
lein i Gelligaled ym 1855, cyn dechrau cludo teithwyr arni
ym 1861. Erbyn 1864, agorwyd siafftiau glo i wythiennau dyfnach,
cyfoethocach, Bodringallt.
Roedd un o waith brics mwya'r ardal yn Ystradyfodwg
hefyd, a sefydlwyd yn wreiddiol i gynhyrchu brics ar gyfer
siafftiau glo lleol. Fe'i sefydlwyd ym 1857 gan gyflogi
llawer iawn o ferched y fro, ac ehangu'n gyflym i gynhyrchu
brics ar gyfer tai a glofeydd ar hyd a lled y De. Erbyn
1900, roedd Ystradyfodwg wedi newid yn llwyr. Yn ogystal â'r
glofeydd hollbresennol, adeiladwyd Eglwys San Steffan ym
1896 am £3,600, codwyd llyfrgell ym 1895 am £3,000,
agorwyd sawl capel, adeiladwyd Ysgol Elfennol Bodringallt
ym 1870, ac ysbyty heintiau ar safle hen ysbyty bach yn
Nhyntyla.
Uchod: Tîm pêl-droed
Ystrad United 1906-7
URDD YR ODYDDION YSTRAD RHONDDA – CYFRINFA
LILY OF THE VALLEY
Gallwn olrhain Urdd yr Odyddion gwreiddiol i'r ddeuddegfed a'r drydedd ganrif
ar ddeg, er bod ei gwreiddiau'n perthyn i gyfnod tipyn cynharach yn ôl
y sôn. Sefydlwyd yr urdd fodern ym 1810 gyda'r nod o roi gofal a chymorth
i'w haelodau mewn cyfnod pan nad oedd y fath beth â'r wladwriaeth les,
undebau llafur na'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Un o'r cyfrinfeydd hynaf a'r mwyaf llwyddiannus oedd
Cyfrinfa Lily of the Valley, oedd yn cyfarfod yn nhafarn
y Star Gellidawel. Arwyddair yr Urdd oedd ‘Philanthropic
intentions are worthy of encouragement. Unity is Strength' ,
ac fe barhaodd yn Ystradyfodwg o 1833 tan 1976. Cymaint
oedd pwysigrwydd Clwb yr Odyddion, fel yr enwyd un o strydoedd
Ystradyfodwg yn Oddfellows Row cyn newid i Club Row yn
ddiweddarach.
Chwith: The Star Gellidawel Hotel,
1913 – Dyma
un o dafarnau hynaf Cwm Rhondda, wrth droed Penrhys Road.
Codwyd gwesty newydd Star Hotel o amgylch gweddillion yr
hen westy sydd yn y llun. Parhawyd i werthu cwrw yno er
mwyn i'r perchennog gadw'i drwydded.
Amcanion y clwb oedd codi arian trwy dâl
mynediad, tâl aelodaeth, dirwyon, rhoddion a llog
ar gyfalaf, er mwyn helpu'r aelodau yn ystod salwch neu
henaint, ac er mwyn sicrhau swm o arian i'w dalu ar ôl
marwolaeth aelod neu wraig yr aelod. Ffermwyr, masnachwyr
a chrefftwyr y fro oedd yr aelodau gwreiddiol yn Ystradyfodwg,
cyn i gyfansoddiad y clwb newid ar ôl i'r pyllau
glo gyrraedd yr ardal .
Mae llyfryn a gyhoeddwyd ym 1886, ‘Rules of the Lily of the
Valley Lodge' yn rhoi cipolwg diddorol ar hynt a helynt y
Gyfrinfa yn Ystradyfodwg ar y pryd. Er mwyn ymuno â'r
Gyfrinfa, byddai aelod presennol yn gorfod derbyn eich cais
a'i gymeradwyo gan ddwy ran o dair o aelodau'r Gyfrinfa.
Mae hefyd yn nodi, ‘No person afflicted with rupture
or loss of sight or limb, or who (or his wife) is of unsound
mind, or if he leads an intemperate or dissolute life, shall
upon any pretence be admitted a member of this Lodge'. Doedd
dim hawl i rai dan bymtheg oed neu dros 35 oed ymuno â'r
Gyfrinfa ac eithrio fel aelodau anrhydeddus, ac ni allent
hawlio cymorth ariannol gan y Gyfrinfa heblaw am gostau cynhebrwng.
Roedd rheolau ymddygiad yr aelodau yn llym iawn o gymharu â safonau
heddiw. Gallant wynebu hyd at bum swllt o ddirwy am beidio
ag ufuddhau gorchymyn un o swyddogion y Gyfrinfa, a hyd at
swllt o ddirwy i unrhyw aelod oedd yn trafod neu'n cyflwyno
gwleidyddiaeth i'r Gyfrinfa. Roedd dirwyon hefyd am gamymddwyn
neu ddefnyddio iaith anweddus, a gallai unrhyw aelod oedd
wedi bod yn ymladd (heblaw amddiffyn ei hun) gael ei ddirwyo
neu ei ddiarddel o'r Gyfrinfa. Os oedd rhywun yn methu gweithio
oherwydd anafiadau yn sgil cwffio neu feddwi, yna ni fyddant
yn gallu hawlio budd-daliadau gan y Gyfrinfa. Roedd y Gyfrinfa'n
rhoi cymorth ariannol gwerthfawr iawn i'r aelodau yn eu henaint
(70 oed a throsodd) ac ar ôl damwain, ond roedd pawb
oedd yn cael nawdd meddygol o gronfa'r Gyfrinfa yn gorfod
dilyn rheolau ymddygiad llym iawn. Dywed y Llyfr Rheolau, ‘No
member on sick list shall do any kind of work (except give
verbal orders, sign receipts etc.), ac os oeddynt yn
mynd am dro er lles eu hiechyd, roedd rhaid iddynt adael
nodyn yn eu cartref i ddweud ble roeddynt yn mynd. Roedd
rhaid iddynt fod yn y t y erbyn 8 o'r gloch nos rhwng 25
Medi a 25 Mawrth, neu erbyn 9 o'r gloch nos yn y misoedd
eraill. Os nad oeddynt yn cydymffurfio â hynny, gallent
wynebu dirwyon cynyddol neu beidio â derbyn budd-daliadau
am chwe mis am droseddu am y trydydd tro.