Mae map rhaniad y degwm 1842 o Blwyf Llanwynno
a'i atodlen yn darparu gwybodaeth werthfawr am darddiad
pentref Trehopcyn. O'r map hwn, gallwn weld nad oedd unrhyw
anheddau wedi'u lleoli lle datblygodd y pentref yn ddiweddarach.
Yn hytrach, roedd yr ardal gyfan yn rhan o ystâd
pum deg un erw Ty Mawr, a oedd yn eiddo i Evan Hopkin.
Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd, roedd llawer wedi newid.
Roedd Glofa Gyfeillion a hen siafft Ty Mawr wedi'u suddo
ac roedd ffyrnau golosg, gweithfeydd cemegol a ffowndri
haearn wedi'u hadeiladu. Roedd datblygiad y diwydiant yn
creu angen am dai. Dechreuodd Trehopcyn ddatblygu fel rhes
sengl o dai a alwyd yn Rhondda Road yng nghyfrifiadau 1851
a 1861. Dim ond ym 1871 yr ymddangosodd yr enw Hopkin's
Town, fel y'i gelwid bryd hynny, yn y cyfrifiad. Gallwn
dybio, felly, fod pentref Trehopcyn wedi'i enwi ar ôl
Evan Hopkin, perchennog Ystâd Ty Mawr ar ddechrau'r
1840au.
Tyfodd poblogaeth Trehopcyn yn gyflym yn ystod ail
hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn cyfrifiad 1891,
gwelwn fod strydoedd ychwanegol wedi'u hadeiladu oddi ar
y stryd wreiddiol. Roedd poblogaeth y pentref bron â chyrraedd
1,500. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd poblogaeth
Trehopcyn wedi dyblu a'i faint wedi cynyddu ymhellach.
Yn wir, roedd cynllun y pentref gan mlynedd yn ôl
yn debyg iawn i'r hyn a welwn heddiw.
Mae'r ddamwain a ddigwyddodd
ar y Taff Vale Railway ar 23 Ionawr 1911 yn ddigwyddiad
arwyddocaol yng ngorffennol Trehopcyn. Gydol eu hanes, mae pentrefi glofaol
y de wedi profi marwolaeth a thrasiedi. Yn wir, roedd colli un ar ddeg o fywydau
o ganlyniad i drychineb rheilffordd Trehopcyn yn golled gymharol fach o gymharu â'r colledion a geir mewn trychinebau pyllau glo ar y pryd. Fodd bynnag,
denodd y digwyddiad gryn sylw a chydymdeimlad â'r dioddefwyr o ganlyniad
i'r adroddiadau cignoeth a ymddangosodd yn y wasg ar y pryd. Ymgasglodd torfeydd
ar Graigwen Hill i dystio i'r dinistr. Hefyd, roedd unigolion amlwg ymhlith
y teithwyr. Roedd aelodau Ffederasiwn Glowyr De Cymru'n teithio i gynhadledd
arbennig Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yn Llundain.
Digwyddodd y ddamwain lle'r oedd deg set o gledrau
ar fin uno'n ddau. Roedd dau flwch signalau, y naill yn
Gyfeillion Lower a'r llall yn Rhondda Cutting, yn rheoli'r
traffig ar y rhan hon o'r trac. Am 9.48 y bore, aeth trên
a oedd yn cludo tua chant o deithwyr i gyfeiriad Pontypridd
heibio i flwch signalau Gyfeillion Lower o dan signalau
clir. Fodd bynnag, wrth iddo droi'r tro cyn blwch signalau
Rhondda Cutting, tarodd yn erbyn trên glo a oedd
yn sefyll ar yr un cledrau . Achosodd effaith y gwrthdrawiad
sydyn i gorff y prif gerbyd ddod yn rhydd o'r ffrâm
isaf. Cododd y ffrâm isaf i fyny a hyrddio drwy'r
cerbyd nesaf ar lefel y seddi. Cafodd llawer o'r cerbydau
eraill eu bwrw oddi ar y cledrau. Cafodd gyrrwr y trên
ddihangfa anhygoel am fod ei injan wedi gadael y cledrau
ond wedi aros ar ei draed.
Uchod: Yr olygfa drychinebus
Digwyddodd y ddamwain lle'r oedd
deg set o gledrau ar fin uno'n ddau. Roedd dau flwch signalau,
y naill yn Gyfeillion Lower a'r llall yn Rhondda Cutting,
yn rheoli'r traffig ar y rhan hon o'r trac. Am 9.48 y bore, aeth trên
a oedd yn cludo tua chant o deithwyr i gyfeiriad Pontypridd heibio i flwch signalau
Gyfeillion Lower o dan signalau clir. Fodd bynnag, wrth iddo droi'r tro cyn
blwch signalau Rhondda Cutting, tarodd yn erbyn trên glo a oedd yn sefyll
ar yr un cledrau . Achosodd effaith y gwrthdrawiad sydyn i gorff y prif gerbyd
ddod yn rhydd o'r ffrâm isaf. Cododd y ffrâm isaf i fyny a hyrddio
drwy'r cerbyd nesaf ar lefel y seddi. Cafodd llawer o'r cerbydau eraill eu bwrw
oddi ar y cledrau. Cafodd gyrrwr y trên ddihangfa anhygoel am fod ei
injan wedi gadael y cledrau ond wedi aros ar ei draed.
Yn fuan ar ôl y gwrthdrawiad, cyrhaeddodd
trên a oedd yn teithio i fyny'r cwm, a stopiodd i
alluogi nifer o deithwyr i ddisgyn a rhoi cymorth. Yn ffodus,
nid oedd y ddamwain yn rhwystro'r trên, ac aeth ymlaen
i Drehafod gyda newyddion am y drychineb. Anfonwyd mintai
fawr o'r fyddin a'r heddlu metropolitan, a oedd wedi'u
lleoli ym Mhontypridd ar ôl terfysgoedd Tonypandy
a'r anhrefnu diwydiannol cyffredinol, i leoliad y ddamwain.
Symudwyd y meirw i dy injans cyfagos a ddefnyddiwyd fel
corffdy, a rhoddwyd y bobl oedd wedi'u hanafu ar drên
arbennig i'r ysbyty agosaf , Ysbyty Brenhinol Caerdydd.
Cynhaliwyd
ymchwiliad rhagarweiniol y diwrnod ar ôl
y ddamwain yng Ngwesty'r New Inn, Pontypridd, lle cyfwelwyd â nifer
o weithwyr a swyddogion. Agorwyd cwest y crwner yn Llys Heddlu
Pontypridd ar y dydd Iau canlynol. Clywyd tystiolaeth anghyson
ynglyn â'r signalau ar gyfer y trên glo gan y
dyn signal Hutchings yn Gyfeillion Lower a Quick y dyn signal
yn Rhondda Cutting. Ni lwyddodd y rheithgor i feio'r naill
na'r llall, felly cafwyd rheithfarn agored. Fodd bynnag,
aeth y rheithgor ymlaen i basio pleidlais gref o gerydd i
yrrwr y trên glo am beidio â chydymffurfio â Rheol
55 yn brydlon. Roedd y rheol hon yn ei gwneud yn ofynnol
i ddyn tân unrhyw drên sy'n sefyll ar reilffordd
gael ei anfon i'r blwch signalau priodol i gadarnhau ei safle.
Lai na mis ar ôl y drychineb, agorwyd Ysbyty Bwthyn
Pontypridd ar 16 Chwefror 1911.
Diwydiant Glo Trehopcyn
John Calvert, peiriannydd rheilffordd o
Swydd Efrog, oedd un o arloeswyr y diwydiant glo yng Nghwm
Rhondda. Cafodd ei gontractio i osod y Taff Vale Railway
ar gyfer Brunel ond sylweddolodd yn gyflym fod elw mawr
i'w wneud yn y diwydiant glo. Suddodd ei bwll cyntaf, Glofa
Newbridge, ym 1844 ac ef oedd y peiriannydd cyntaf i ddefnyddio
pwer stêm i godi glo. Peiriant Calvert sydd i'w weld
heddiw o flaen yr hen Forest House ar gampws Prifysgol
Morgannwg. Bedair blynedd yn ddiweddarach, suddodd Lofa
Gyfeillion. Cymerodd dair blynedd i gyrraedd y wythïen
lo a hwn oedd y pwll cyntaf i gael ei suddo y tu hwnt i
100 llath. Ar ôl prydlesu'r pwll am dri mis, prynodd
y Great Western Railway Company y lofa ym 1854. Yn dilyn
deng mlynedd fuddiol dros ben, gwerthodd y cwmni'r lofa
yn ôl i Calvert. Ym 1866, penderfynodd werthu'r lofa
unwaith eto. Prynwyd gan y Great Western Colliery Company
Limited a'i henw bellach fyddai Glofa'r Great Western.
Cafwyd cyfnod o ehangu ac, erbyn diwedd y 1870au, roedd
tair siafft ychwanegol wedi'u suddo (rhif 2, rhif 3 a Siafft
Hetty). Mae hefyd yn debygol y cafodd hen Siafft Ty Mawr
ei suddo yn y cyfnod hwn, er bod ei hanes cynnar yn aneglur
o hyd. Yn ystod y 1880au, Glofa'r Great Western oedd y
pwll mwyaf yng Nghwm Rhondda o ran gweithwyr a chynnyrch.
Erbyn 1913, roedd pwll rhif 2 yn cyflogi 603 o ddynion
a phwll rhif 3 yn cyflogi 206 o ddynion. Fodd bynnag, ddeng
mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd y gorau i'r ddwy siafft,
yn ogystal â hen Siafft Ty Mawr. Suddwyd siafft newydd
Ty Mawr (a elwid yn rhif 1) a chadwyd Siafft Hetty i ddarparu
pwmpio ac awyru.
Chwith: Yr injan weindio yng Nglofa
Ty Mawr
Yn nes ymlaen, prynodd
y Powell Duffryn Steam Coal Company Ltd Lofa Ty Mawr,
a bu'n berchen arni tan y gwladoli. Ym 1958, buddsoddodd y Bwrdd Glo £1.2
miliwn mewn gwaith ad-drefnu ar yr wyneb a dan ddaear i uno Ty Mawr â Glofa
Lewis Merthyr. Daeth yr holl waith weindio glo yn Lewis Merthyr i ben, a defnyddiwyd
Ty Mawr i ddod â'r glo i'r wyneb, gyda deunyddiau'n mynd i lawr i Lewis
Merthyr. Daeth y gwaith cynhyrchu i ben yng Nglofa Ty Mawr/ Lewis Merthyr
ym 1983.
Digwyddodd trychineb fwyaf Glofa'r Great Western ar
11 Ebrill 1893 pan fu farw 60 o lowyr mewn tân dan
ddaear. Rhoddwyd llenni bradis ar dân gan wreichion
o flociau brecio pren yr injan gludo. Cafodd dwr ei gario
o'r stablau ac roedd dynion yn curo'r fflamau gydag unrhyw
beth a ddaeth i law mewn ymgais i ddiffodd y tân.
Fodd bynnag, roedd yr awel awyru gref yn tanio'r tân,
gan achosi cynalyddion pren a llwch glo i gynnau. Cynhyrchwyd
cymylau trwchus o fwg a mygdarth. Byddai llawer mwy wedi
marw oni bai am ddewrder Thomas Prosser, y swyddog tân
lleol 21 oed. Mentrodd i mewn i'r mwg trwchus a, thrwy
agor set o ddrysau aer, dargyfeiriodd y mygdarth allan
o'r pwll.
Uchod: Glofa'r Great Western
Roedd yna ddwy lofa lai yn Nhrehopcyn hefyd,
sef Glofa'r Lan, ar lan ddeheuol yr afon Rhondda, a Glofa
Typica. Agorwyd Glofa'r Lan gan y Lan Coal Company cyn 1870
ac fe'i caewyd ym 1907, tra bu Glofa Typica ar waith rhwng
1875 a 1879 dan berchnogaeth y Typica Coal Company.