Credir mai Llantrisant yw tref hynaf Cwm El á i.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o drefi a phentrefi Rhondda Cynon
Taf, mae ei hanes yn dechrau sawl canrif cyn y Chwyldro
Diwydiannol. Adeiladwyd y dref ar ben bryn, ac mae Bro
Morgannwg yn ymestyn islaw.
Mae digon o le i gredu bod cymuned Geltaidd wedi byw yma
mor gynnar â'r seithfed ganrif o leiaf , neu hyd
yn oed mor bell yn ôl â'r goresgyniad Rhufeinig
o ystyried gweithgarwch y lleng Rufeinig yn yr ardaloedd
cyfagos. Daeth Llantrisant yn un o'r cadarnleoedd Normanaidd
pwysicaf yn y de, yn bennaf oherwydd ei leoliad uchel rhwng
y dyffryn a thir mynydd diffaith y gogledd.
Mae'n bosibl i'r castell Normanaidd cyntaf gael ei adeiladu
rywbryd rhwng 1096 ac 1100. Yn ogystal â'i leoliad
strategol, un o'i swyddogaethau pwysicaf oedd amddiffyn
eglwys y plwyf a chymuned o dyddynwyr. Cysegrwyd yr Eglwys
Normanaidd gan genhadon Llanilltud Fawr i'r saint Illtyd,
Gwynno a Dyfodwg, gan roi i'r dref ei henw presennol, Llantrisant.
Fe'i hailadeiladwyd tua 1246, pan atgyfnerthwyd y castell
cyfagos hefyd.
Chwith: Eglwys Llantrisant
Er gwaethaf y gwaith o atgyfnerthu'r castell, gwelodd
Llantrisant gyfres o wrthryfeloedd gwaedlyd. Gwrthryfel
Llywelyn Bren ym 1316 oedd y pwysicaf, gan iddo ddinistrio'r
arglwyddiaeth gyfan, gan gynnwys Llantrisant, mewn dim
ond naw wythnos. Fodd bynnag, defnyddiwyd y castell am
o leiaf ddeng mlynedd arall, a chafodd ei ddefnyddio fel
carchar dros nos i'r Brenin Edward II, a gipiwyd fis Tachwedd
1326 cyn cael ei ddienyddio mewn ffordd erchyll yng Nghastell
Berkeley. Er bod cyfeiriad byr at ymladd yn y castell wedyn,
prin iawn yw'r sôn amdano ar ôl 1404. Does
dim sicrwydd a gafodd y castell ei chwalu gan ddynion Owain
Glyndwr neu ei adael yn segur yn dilyn cyfnod o sefydlogrwydd.