Mae mapiau Arolwg Ordnans cyn y 1950au yn dangos bod
Llanilltud Faerdref yn amgylchynu Eglwys y Plwyf Illtud
Sant. Erbyn heddiw, fodd bynnag, cyfeirir at yr ardal hon
fel Pentre'r Eglwys/Gartholwg Uchaf tra bod Llanilltud
Faerdref ychydig dros filltir i'r de. Er bod adeilad eglwys
bresennol Illtud Sant yn dyddio'n ôl i'r unfed ganrif
ar bymtheg, defnyddiwyd y safle fel man addoli ers y bumed
ganrif. Gallwn olrhain y twr i 1636; y gofrestr i 1632,
a'r gloch i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adnewyddwyd
ac ailgysegrwyd y gloch ym 1974.
Dde: Pentre'r Eglwys/Gartholwg Uchaf a'r eglwys
Yn ôl map Ordnans 1875, dim ond pentref bychan
gydag eglwys y plwyf, tafarn a dyrnaid o fythynnod oedd
Llanilltud Faerdref. Mae'r cyfrifiadau cyn cyhoeddi'r map
yn dangos mai datblygu'n raddol wnaeth y pentref. Rhwng
1841 a 1861, ymddengys bod nifer yr aelwydydd wedi parhau'n
gyson tra'r oedd y boblogaeth yn codi a gostwng. Yn ôl
cyfrifiad 1841, roedd 34 o bobl yn byw ar 9 aelwyd, gan
gynnwys cigydd, saer coed, saer maen, ysgolfeistres, clochydd
a dau dafarnwr. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd 14
o lowyr yn byw yn y pentref.
Chwith: Tafarn y Crown – ar heol
fawr Llanilltud Faerdref