Mae'n eithaf anodd mynd i'r afael yn iawn â chefndir
Pontypridd ond, cyn i William Edwards adeiladu'r bont ym
1756, mae'n ymddangos mai ardal denau ei phoblogaeth o
ffermydd gwasgaredig oedd Pontypridd – lle gwledig, digon
marwaidd. Dechreuodd y boblogaeth dyfu ryw 50 mlynedd yn
ddiweddarach pan sefydlwyd Gwaith Tun Trefforest (tua 1800)
a'r system drafnidiaeth ar y gamlas a gludai ddeunyddiau
crai o gymoedd Cynon a Merthyr. Ond nid cyn dechrau cloddio
o ddifri am lo o'r gwythiennau lleol bras yng nghanol yr
1800au y gwelwyd cynnydd aruthrol yn y boblogaeth. Roedd
y glo rhydd yma'n cynhyrchu mwy o bwer a llai o glincer
nag unrhyw lo rhydd arall oedd ar gael ar y pryd a dyma'r
unig lo a ddefnyddiai'r Llynges Brydeinig a llawer o fentrau
diwydiannol/morol eraill oedd yn dibynnu ar yriant stêm.
Uchod: Engrafiad o Bontypridd tua 1850
Y ffaith anffodus yw bod trefi fel Pontypridd a dyfodd
yn sgil y diwydiant glo o'r herwydd yn gwbl ddibynnol arno.
Dechreuodd dirywiad y meysydd glo yn negawd cyntaf yr 20fed
ganrif pan ddisbyddwyd y gwythiennau bras oedd yn gymaint
haws i'w cloddio. Nid bod y cloddio wedi dod i ben bryd
hynny, ond ni fu byth ar yr un raddfa ag yn ystod y cyfnod
rhwng 1870 a 1895. Gyda'r dirywiad daeth diweithdra a thlodi
a arweiniodd at wrthdystiadau cyhoeddus mawr fel yr un
yn Ionawr 1935 yn erbyn y Prawf Modd. Ymhen hir a hwyr
daeth y llywodraeth o hyd i arian i ariannu prosiectau
fel Ystâd Ddiwydiannol Trefforest i ddarparu gwaith
o fath gwahanol yn yr ardal. Mae'r prosiect hwn yn parhau
hyd heddiw gyda chymorth Awdurdod Datblygu Cymru.
Uchod: darlun o Bontypridd tua 1900
Pont Pontypridd
Cyn 1856 nid oedd Pontypridd fel enw tref yn bod. Yr hen enw ar Bontypridd oedd
Newbridge sy'n cyfeirio at y bont a adeiladwyd gan William Edwards ym 1756.
Mae'r enw'n awgrymu bod pont yn croesi'r afon Taf yn yr ardal cyn hynny ac yn
y rhestr o'r pontydd dros y Taf a gofnodir yn llyfr taith John Leland (1536-1542)
cawn dystiolaeth o hyn. Mae'n cyfeirio at bont bren ym ‘Mhont Rhehesk'. Yn y
dyddiau hynny tueddent i sillafu yn ôl yr hyn a glywent, felly gallwn
dybio ei bod yn ymyl Craig-yr-Hesg, ychydig yn uwch i fyny'r afon na phont Edwards.
Mae'n ddigon posib mai'r rheswm dros ei lleoli yno oedd i hwyluso taith y pererinion
a dyrrai i Fynachlog y Forwyn Fair ym Mhen-rhys. Pan ddiddymwyd y fynachlog
gan Harri VIII ym 1538 nid oedd angen y bont ar y trigolion lleol, ac felly
dechreuodd ddadfeilio. Aeth 200 mlynedd heibio cyn i'r galw am fodd i groesi'r
Taf symbylu codi pont arall.
Uchod: Darlun o Bont William Edwards sy'n dangos natur
wledig y cyffiniau ychydig wedi adeiladu'r bont.
Ganwyd William Edwards, adeiladwr y bont newydd, yn Ty Canol, Groes-wen a bedyddiwyd
ef ar 8 Chwefror 1719. Pan oedd William yn 7 oed, boddodd ei dad wrth geisio
rhydio'r afon Taf wrth ddychwelyd o ffair Llantrisant ar gefn ceffyl. Ai hyn
sbardunodd ei obsesiwn wedi hynny ynglyn â phont Pontypridd?
Symudodd y teulu i Fryn Tail, oedd ychydig i'r de o eglwys Eglwysilan ac
yn edrych allan dros leoliad Ystâd Ddiwydiannol Trefforest heddiw.
Yn fachgen ifanc, gweithiai William yn ddiwyd ar y fferm ac yn fuan dechreuodd
ddangos diddordeb mewn codi muriau sychion a gwaith adeiladu'n gyffredinol.
Pan fyddai adeiladwyr yn ymweld â'r ardal byddai'n dysgu technegau ganddynt
fyddai'n ei roi ar ben y ffordd yn ddiweddarach mewn bywyd. Dechreuodd adeiladu
ei hun ac un o'i brosiectau lu oedd melin Craig y Fedw, ychydig i'r dwyrain
o Abertridwr. Yn ystod y cyfnod y bu'n byw yng Nghaerdydd adeiladodd ffwrnais
yng Nghastell Caerdydd. Ym 1746, comisiynwyd William Edwards i adeiladu pont
dros yr afon Taf ym Mhontypridd am y swm o £500, ar yr amod y byddai'r
bont yn sefyll am 7 mlynedd.
Adeiladwaith tri bwa oedd yr ymgais gyntaf, a safodd
am 26 mis cyn cael ei olchi ymaith gan falurion wedi'u
cario i lawr gan yr afon Taf yn ystod llif. Pontio'r Taf
heb bileri yng nghanol yr afon oedd yr ail ymgais. Methodd
honno oherwydd i'r fframwaith a oedd wedi'i godi i gynnal
y bont drom yn ystod cyfnod yr adeiladu ddymchwel. Methiant
fu'r ymgais nesaf hefyd - syrthiodd darn canol y bont am
na allai gynnal pwysau yr hansys ochr mawr. Rhoddodd hyn
syniad i Edwards ar gyfer ei bedwaredd ymgais. Gallai addasu
ei gynllun a chreu twnelau mawr drwy'r hansys ar bob ochr
i leihau'r pwysau oedd ar y darn canol. Llwyddiant fu hanes
y twnelau hyn, yn mesur 9 troedfedd o'r gwaelod, 6 troedfedd
o'r canol a 3 troedfedd o'r top, a chwblhawyd y gwaith
o adeiladu'r bont ym 1756.
Uchod: Yr Hen a'r Newydd. Mae'r ffotograff
yn dangos y ddwy bont yn yr 1900au cynnar. Mae'r twnelau
drwy'r hansys, a alluogodd William Edwards i gwblhau adeiladwaith
y bont yn llwyddiannus, i'w gweld.
Nid oedd y ffordd serth at y bont ac i lawr oddi arni
yn broblem i anifeiliaid ond câi wagenni trwm yn
cael eu tynnu gan geffylau anhawster, a defnyddient gadwyn
gref i'w harafu wrth fynd ar i lawr. Roedd hyn yn peri
gwisgo parhaus ar arwyneb y bont.
Oherwydd cynnydd yn y drafnidiaeth dros y Taf codwyd ail
bont ochr yn ochr â hi ym 1857. Yn ddiweddarach,
tua 1900, wedi atgyweirio wyneb y bont ac ychwanegu grisiau,
cyfyngwyd defnydd pont William Edwards i gerddwyr.
Hyd heddiw, mae'r adeiladwaith yn dal i sefyll fel cofeb
i ddyfeisgarwch a dyfalbarhad William Edwards.
Evan James a James James – cyd-gyfansoddwyr ‘Hen
Wlad Fy Nhadau'
Evan James a gyfansoddodd eiriau ein Hanthem Genedlaethol
bellach, a'i fab, James James, a gyfansoddodd y gerddoriaeth.
Ganwyd Evan James ym 1809 ym mhlwyf Eglwysilan ger Caerffili,
yn un o 11 o blant. Symudodd y teulu lawer gwaith yn ystod
ei blentyndod, yn gyntaf i dafarn yr ‘Ancient Druid' ger
Trecelyn, Argoed. Oddi yno aethant i Ffos-yr-Hebog, tyddyn
i'r gogledd-orllewin o Deri ym mhlwyf Gelli-gaer. Tua 1847,
prynodd ei dad, gwehydd wrth ei alwedigaeth, ffatri yn
Stryd y Felin, Newbridge (ail-enwyd yn ‘Pontypridd' ym
1856) a symudodd y teulu yno. Dyna lle y treuliodd Evan
weddill ei oes. Roedd yn fardd naturiol, a chynhyrchodd
nifer o weithiau dros lawer o flynyddoedd.
Dde: Evan James, ‘Ieuan ap Iago'
(1809 - 1878)
James James oedd cerddor y teulu ac roedd yn delynor
medrus er nad yw'n ymddangos iddo gael unrhyw hyfforddiant
ffurfiol mewn cerddoriaeth. Ni allwn ond tybio mai dysgu'i
hunan gyda help ei gyfaill John Crockett a wnaeth. Yn ystod
y cyfnod rhwng 1849 a 1863 cadwai James lyfr yn cynnwys
sgoriau cerddorol ac mae ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol
- yn hwnnw y mae sgôr ‘Hen Wlad Fy Nhadau' i'w weld.
Mewn llythyr at John Crockett dyddiedig 4 Rhagfyr 1910,
ysgrifennodd ei fab Taliesin hanes y geiriau a'r gerddoriaeth,
a phwy well i wneud hynny. Dyma gyfieithiad o'r geiriau:
‘Clywais fy nhad yn dweud lawer gwaith iddo ar brynhawn Sul
yn y mis hwnnw a'r flwyddyn honno (Ionawr 1856) fynd am dro
i fyny Ffordd Rhondda ac i'r alaw ddod i'w feddwl. Wedi dychwelyd
i dy fy nhad-cu, ychydig ddrysau o'i gartref ef ei hun, meddai
wrtho, “Nhad, rwyf wedi cyfansoddi alaw sydd yn fy marn i yn
addas ar gyfer cân wladgarol. Wnewch chi gyfansoddi penillion
iddi?” “Gad i fi ei chlywed,” meddai fy nhad-cu, gan ychwanegu, ‘Cer
i mofyn dy delyn, James.” Daeth fy nhad â'r delyn i Dy'r
Ffatri a chanu'r alaw ar yr offeryn. Gwnaeth dipyn o argraff
ar fy nhad-cu, ac ar unwaith galwodd am y llechen a oedd, fel
y gwyddoch yn iawn, bob amser yn hongian wrth ymyl ei gadair
freichiau ger y lle tân, ac o fewn ychydig funudau
roedd geiriau'r pennill cyntaf wedi'u hysgrifennu. Drannoeth,
ysgrifennodd yr ail a'r trydydd pennill.'
Chwith: James James, ‘Iago ap Ieuan' (1832 – 1902)
Ddown ni byth i wybod a yw'r hanes yn wir bob gair,
ond mae'n ffaith sicr i'r tad a'r mab gydweithio i gyfansoddi'r
gân sydd, ynghyd â ‘Chwm Rhondda', y fwyaf
adnabyddus yng Nghymru.
Dros y blynyddoedd mae rhai wedi awgrymu nad gwaith gwreiddiol
James James yw'r alaw ond y gallai fod wedi deillio o alaw
hen ddawns Wyddelig, ‘Rosin the Beau (Bow)', a oedd yn eithaf
adnabyddus ar y pryd. Mae sylwadau di-flewyn-ar-dafod Phyllis
Kinney, tua 1989, yn tueddu i wfftio'r syniad. Mae'n dweud, “Ar
y cyfan dim ond un frawddeg gerddorol sy'n union yr un fath
yn y ddwy alaw, y frawddeg ar y geiriau ‘Tros ryddid collasant
eu gwaed', sy'n cael ei hailadrodd ar y geiriau ‘O bydded
i'r heniaith barhau' ar y diwedd. Mae tebygrwydd, ond yn
fy marn i nid amrywiad ar ‘Rosin the Beau (Bow)' yw ‘Hen
Wlad Fy Nhadau'. Mae'n fwy tebygol, oherwydd poblogrwydd
alawon Gwyddelig yn y ganrif ddiwethaf, bod brawddegau cerddorol
'Rosin the Beau (Bow)' yn wybyddus yn gyffredinol, a bod
James James yn gyfarwydd â nhw. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth
mawr rhwng dweud bod cyfansoddwr wedi'i ddylanwadu yn ddiarwybod
gan ddarn o gerddoriaeth a dweud bod un gwaith yn gopi o
un arall.”
Uchod: Y copi gwreiddiol o ‘Hen Wlad Fy Nhadau' gan James James a gedwir yn
y Llyfrgell Genedlaethol
Wedi i James James farw ym 1902 awgrymwyd y dylid codi
cofeb i'r tad a'r mab. Cymerodd yn agos i 30 mlynedd i'r
awgrym ddwyn ffrwyth a chafodd y gofeb, wedi'i chynllunio
gan Syr William Goscombe John, ei dadorchuddio ym Mharc
Ynysangharad ar 23 Gorffennaf 1930. Mae'r gofeb hardd yn
portreadu dau ffigwr efydd llawn maint, yn cynrychioli
barddoniaeth a cherddoriaeth sydd wedi'u gosod mewn carreg
Las Pennant.
Dyma'r arysgrif sydd arni:
In memory of Evan James and James James father and
son, of Pontypridd, who, inspired by a deep and tender
love of their native land united poetry to song
and gave Wales her National Anthem, ‘Hen Wlad fy Nhadau'.
Dadorchuddio'r gofeb ym Mharc Ynysangharad
Philip Thomas
Mae'r garreg fedd sy'n nodi man claddu Phillip Thomas
heddiw yn sefyll ym Mynwent Glyn-taf. Fodd bynnag, mae
carreg fedd oedd wedi ei bwriadu ar ei gyfer yn sefyll
ar Gomin Pontypridd. Mae'r stori y tu ôl i'r garreg
sy'n edrych allan dros ei weithle ar y comin wedi dod yn
rhan o lên gwerin Pontypridd.
Pan fu Thomas farw yn 1840, newydd gael ei chodi oedd Eglwys Glyn-taf ac ef
oedd y cyntaf i gael ei gladdu yno. Roedd y ffaith nad oedd carreg ar ei fedd
yn ofid i Francis Crawshay, preswylydd enwog Forest House a rheolwr Gwaith Tunplat
Trefforest. Felly aeth ati ar ei liwt ei hun i godi carreg fedd yn Eglwys Glyn-taf;
ond nid oedd amwysedd y beddargraff yn plesio teulu Thomas. Yn wir, roeddynt
mor ddig fel yr aethant ati i wneud twll ym mur y fynwent, symud y garreg, a'i
gadael yn gorwedd mewn cae gerllaw. Daeth yr ecsentrig Dr William Price ar draws
y garreg a gyda chymorth Crawshay trefnodd iddi gael ei gosod yn ei safle presennol
gerllaw cylch yr orsedd. Mae'r enw, Phillip Thomas, wedi ei ddileu.
De: Mae'r llun hwn yn dangos y garreg sydd ar Gomin Pontypridd
Mae'r garreg yn darllen fel hyn:
STRANGER HALT
I am placed here to commemorate
the virtue and abilities of
who after managin the chain work
on my right hand side for the space of
21 years much to the benefit of all
mankind died and was buried herein
1840
Aged 69
Brown Lenox Chainworks
Yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Y Chainworks ', mwynhaodd Brown Lennox
and Co. Ltd berthynas faith â Phontypridd gan wneud cyfraniad arwyddocaol
i hanes y dref. Mae dechreuadau'r cwmni yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 1800au
pan gymerodd Samuel Brown batent ar gadwyn haearn gyr yr oedd wedi'i dyfeisio
i ddisodli'r ceblau o raffau cywarch a ddefnyddid i ddal angor llong. Gan nad
oedd yn gallu ariannu'r prosiect nes ei gwblhau, perswadiodd berthnasau a ffrindiau
i'w helpu. Arweiniodd hyn ym 1806 at sefydlu partneriaeth rhwng Brown a'i gefnder,
Mr Samuel Lennox, a dyna, i bob pwrpas, ddechrau cwmni Brown Lennox.
Er mwyn dangos rhagoriaeth cadwyni haearn, gosododd
Brown rigin a cheblau môr o haearn ar long o'r enw
Penelope a hwylio i India'r Gorllewin.
Gwnaeth hyn gymaint o argraff ar y Morlys fel iddynt orchymyn
gosod ceblau cadwyn ar bedair llong ryfel cyn gynted ag
iddo ddychwelyd ym 1808. A dyna ddechrau cyfres ddi-dor
o gytundebau blynyddol a barhaodd am dros ganrif rhwng
1808 a 1916. Nid yw'n syndod i waith mwy gael ei godi ym
Millwall ar afon Tafwys ym 1812 i gwrdd â'r galw.
Fodd bynnag, roedd y galw cynyddol am gynhyrchu cadwyni
yn dangos bod angen gwneud hynny.
Uchod: Dolenni cadwyn o'r SS Mauretania
cyn eu profi (chwith) ac ar ôl eu profi (de) dan
lwyth o 370 tunnell
Dewiswyd Pontypridd fel lleoliad y gwaith cadwyni oherwydd
ei fod mor agos i gyflenwad o haearn a glo. Roedd y gwaith,
a godwyd ym 1816, yn Ynysangharad gerllaw Camlas Morgannwg.
Cafodd dau fasn camlas eu hadeiladu, un i dderbyn tanwydd
a haearn a'r llall i gael gwared â'r cynnyrch gorffenedig.
Roedd y gwahaniaeth o 20 troedfedd rhwng y ddau fasn camlas
yn gyfrifol am lif mawr o ddwr a rhedai hwnnw'n ddigon
cyflym, drwy olwyni dwr ac yna tyrbeini, i gynhyrchu'r
holl bwer a oedd yn angenrheidiol.
Chwith: Isambard Kingdom Brunell yn sefyll wrth ochr cadwyni
wedi'u gwneud gan Brown Lennox ar gyfer yr SS Great Eastern
Daeth cynhyrchu ceblau cadwyn yn llawer haws wedi dyfodiad
peiriant i blygu a sgarffio dolenni cyn eu defnyddio i wneud
cadwyn. Samuel Brown, gyda chymorth Phillip Thomas - rheolwr
cyntaf y gwaith - a ddyfeisiodd y peiriant hwn. Wrth i'r
diwydiant glo ddatblygu ac i'r galw am beiriannau weindio
a chludo gynyddu, ehangodd y cwmni ei orwelion a chynhyrchu
gwahanol fathau o offer. Parhaodd y cwmni i ddatblygu'n gyflym
a chodwyd estyniad i gynnwys morthwylion stêm ar gyfer
gwneud angorau trymion. Mae cyfrifiadau'r 1800au yn dangos
bod pobl yr ardal yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar y gwaith.
Yn wir, mae map 1875 yr Arolwg Ordnans a chyfrifiad 1881
yn dangos mai enw'r rhes o dai ar ochr arall y gamlas, gyferbyn â'r
gwaith, oedd Chainworkers Row .