Daeth pentref Tonyrefail i fod yn ail hanner y ddeunawfed ganrif. Mae Thomas
Morgan, un o hynafiaid y pentref, yn ategu hyn yn ei lyfr ‘Hanes Tonyrefail'
ym 1899.
Mae'n cofio siarad â nifer sy'n cofio'r adeg pan
mai dim ond un ty oedd yn y pentref. Dechreuodd y pentref
ddatblygu yn sgil mentergarwch Evan Pritchard. Roedd yn
byw yn Collena House ar ael y bryn, uwchben y pentref lle
sefydlodd melin wlân a melin gotwm. Adeiladodd system
ddwr helaeth i yrru peiriannau'r melinau hyn, gan gynnwys
cored dros afon Elái, ffrwd 400 llath, ceuffos a
thri phwll.
Dde: Collena House
Arafodd pethau'n sylweddol ar ôl iddo farw ym
1795, ac ychydig iawn o dwf a datblygiad a welwyd yn negawdau
cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr unig eithriad oedd
agor siop y crydd. Yn ôl cyfrifiad 1841, roedd 13
crydd yn byw yn Nhonyrefail, sef prif gyflogwr y pentref
o bell ffordd.
Chwith: Mill Street tua 1900
Roedd saith o lowyr a masnachwyr a chrefftwyr eraill
hefyd yn byw yn y pentref ar y pryd, ond gwelwyd byd o
wahaniaeth ugain mlynedd yn ddiweddarach. Yn ôl cyfrifiad
1861, roedd nifer y glowyr wedi mwy na dyblu yn Nhonyrefail
wrth i ychydig o lefelau bas a phyllau cloch agor ar ôl
darganfod glo. Patrwm tebyg sydd i boblogaeth y pentref
hefyd, a gynyddodd o 85 ym 1841 i 160 ym 1861.
Dde: Y Gof - Tonyrefail
Roedd dechrau'r 1860au yn nodi dechrau
twf pellach yn hanes Tonyrefail. Y sbardun oedd adeiladu
rheilffordd lydan trwy Gwm Elái, o Lantrisant i
Donyrefail a Phenygraig, gan Ely Valley Railway Company.
Daeth y lein i Donyrefail ym 1860 cyn ehangu i Benygraig
ddwy flynedd wedyn. Aeth y cwmni rheilffordd ati i adeiladu
tai yn Station Row hefyd, ac yn ôl cyfrifiad 1871,
roedd tua 10 o weithwyr y rheilffordd a'u teuluoedd yn
byw yno.
rbyn hyn, roedd tai wedi'u hadeiladu bob ochr i Chapel
Street a thair rhes fer oddi ar Collena Road ym 1862. Yn ôl
cyfrifiad 1871, roedd poblogaeth yr ardal (gan gynnwys ardal
Redgate) wedi cynyddu i dros 300. Datblygodd canolfan fasnachol
Tonyrefail a chodwyd adeiladau crefyddol ac addysgol i ddiwallu
anghenion poblogaeth gynyddol y pentref. Agorwyd y swyddfa
bost ym 1870 ar Chapel Street, a ailenwyd yn Stryd Fawr yn
ddiweddarach. Cafodd Capel y Ton (Methodistiaid Calfinaidd),
a adeiladwyd gyntaf ym 1791, ei ailadeiladu ym 1863, tra agorwyd
Capel Ainon y Bedyddwyr flwyddyn ynghynt. Ar ôl agor
festri newydd Capel y Ton ym 1857, sefydlwyd Ysgol Brydeinig
newydd.
Uchod: Capel y Ton
Agorwyd adeilad pwrpasol i'r Ysgol Brydeinig ym 1868.
Datblygodd pethau'n gyflym iawn o 1870au ymlaen wrth i byllau
glo dwfn agor yn agos i Donyrefail Roedd glofeydd T y Du, Collena,
Cil Ely, Ely Merthyr a'r Glyn o fewn milltir a hanner i ganol
y pentref, yn ôl y map ordnans cyntaf ym 1874. Codwyd
tai ar hyd a lled y pentref ar gyfer y glowyr a'u teuluoedd.
Gwelwyd y datblygiad mwyaf ar hyd Chapel Street, ac erbyn 1891
roedd cymuned Redgate yn rhan o Donyrefail. Erbyn hyn, roedd
300 o bobl yn byw yn y stryd hon a 60 ohonynt yn gweithio yn
y glofeydd.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, roedd poblogaeth
Tonyrefail wedi cynyddu i dros 2,200 yn ôl cyfrifiad
1901, a thua 500 yn gweithio yn y pyllau glo. Er i rai
o byllau glo dwfn y pentref gau yn ystod degawd cynta'r
ugeinfed ganrif, cynyddodd nifer y glowyr yn sgil agor
Glofa Coed-Ely ym 1901.
Roedd y lofa hon rhyw ddwy filltir i'r de o'r pentref, ac
roedd 1700 o lowyr yn gweithio yno erbyn 1919. Dyma un o
lofeydd mwya'r ardal ar y pryd, ac roedd yn cynnwys ffyrnau
golosg a gwaith isgynnyrch cyflawn. Yn naturiol, parhaodd
Tonyrefail i ehangu yn ystod y degawd cyntaf wrth i strydoedd
newydd fel Pretoria Road, The Avenue a Prichard Street ymddangos.
Roedd hwn yn gyfnod o foderneiddio a datblygu busnesau newydd
hefyd. Mae Cyfeirlyfr Busnesau Kelly 1906 yn rhestru busnesau
fel ‘Tonyrefail & Gilfach Goch Electric Light Co. Lim',
oedd yn gyfrifol am osod ceblau trydan, a Richard Lewis,
rheolwr o gangen Banc Lloyd. Agorodd atyniad hamdden cyffrous
uwchben Sgwâr y pentref ym 1914, sef sinema (Picture
Theatre) ac mae i'w weld ar drydydd rhifyn map Ordnans a
gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn.
r ôl y Rhyfel Mawr, adeiladwyd tai cyngor yn yr ardal
am y tro cyntaf erioed. Codwyd y stad fwyaf i'r gorllewin
o lein Ely Valley Railway yn Nhynynbryn rhwng 1919 a 1922.
Ni fu rhagor o ddatblygiad tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Adeiladwyd tai cyngor yng ngogledd Tonyrefail yn y 1960au
a'r 1970au, a chodwyd tai preifat y tu ôl i Benygarreg
a Heol Isaf yn y 1970au a'r 1980au. Mae mwy o dai'n dal i
gael eu hadeiladu heddiw, er i lofa Coed Ely gau ym 1985.
Mae'r ardal yn denu'r datblygwyr oherwydd y cysylltiadau
ffyrdd newydd. Codwyd ffordd osgoi newydd ar lwybr yr hen
reilffordd o Goed-elái i Glydach, fel bod modd i drigolion
Tonyrefail gymudo i Gaerdydd a thu hwnt.