Dim ond pentref bach gydag ychydig o fythynnod a ffermydd
oedd Ynys-y-bwl yn wreiddiol yn ôl map degwm a chofrestr
plwyf Llanwynno ym 1842. Dyma ganolbwynt y plwyf, lle'r
oedd yr afon Ffrwd yn llifo i afon Clydach. Yn ôl
cyfrifiad 1841, roedd tua 200 o bobl yn byw yn y pentref
a'r ffermydd cyfagos. Ffermwyr, gweision neu forwynion
fferm oedd y rhan fwyaf ohonynt wrth eu galwedigaeth. Ymhlith
gweithwyr eraill y pentref, roedd gof, dyn coed, saer maen,
crydd, teiliwr a thafarnwr Ynysybwl Inn. Ni newidiodd pethau
fawr ddim dros y 40 mlynedd nesaf, ar wahân i godi
ambell fwthyn newydd.
Hen bentref Ynys-y-bwl
Yn wir, mae cyfrifiad 1881 yn dangos i boblogaeth Ynys-y-bwl
gynyddu i ddim mwy na 270 o bobl. Ffaith bwysig arall yng
nghyfrifiad 1881 yw nad oes yr un glöwr yn y pentref.
Ond mae arolwg map ordnans 1884 yn dangos fod newid mawr
ar droed yn Ynys-y-bwl. Er bod lefel lo Mynachdy i'w gweld
ar y map, yr hyn a weddnewidiodd y pentref i fod yn dref
lofaol oedd agor Glofa Lady Windsor ar 16 Mehefin 1884.
Chwith: Siop ddillad Pugh's ymfudodd
y teulu i Ganada yn ystod streic 1926
Disgrifiwyd newidiadau mawr yr oes gan un o hynafiaid
Ynys-y-bwl, William Thomas 1843-1890, neu Glanffrwd i eisteddfodwyr
a charedigion llenyddol y fro. Ysgrifennodd Hanes Plwyf
Llanwynno mewn wythnosolyn o'r enw Y Darian' ym 1888,
gyda disgrifiadau gwych am hynt a helynt y brodorion a'u
ffordd o fyw.
Mae'n hel atgofion am eisteddfodau a digwyddiadau chwaraeon
y pentref, gyda llawer ohonynt yn cael eu cynnal yn Ynysybwl
Inn. Rydym yn synhwyro ei ddigalondid wrth i'r diwydiant
glo ddod i'w gynefin.
Glofa Lady Windsor, Ynys-y-bwl
Yn ystod yr 1880au, daeth David Davies Llandinam (Davies
the Ocean) i bentref Ynys-y-bwl, yn argyhoeddedig fod cyfoeth
o lo dwfn yno . Ar ôl i ganlyniadau profion yn y
Graig-ddu ddangos ei fod yn llygad ei le, torrwyd y dywarchen
gyntaf ar 16 Mehefin 1884. Erbyn mis Medi'r flwyddyn honno,
roedd 200 yn cael eu cyflogi yn y lofa newydd llawer
ohonynt yn hanu o bentref genedigol David Davies, Llandinam.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd Glofa Lady Windsor
yn cynhyrchu toreth o lo golosg o'r radd flaenaf, agorwyd
gwesty moethus The Windsor Hotel' a dechreuwyd adeiladu
300 o fythynnod newydd i'r glowyr. Codwyd ffyrdd a gorsaf
reilffordd newydd, a chyn pen dim, roedd Ynys-y-bwl yng
nghanol bwrlwm diwydiannol.
Roedd y glowyr yn derbyn cyflog pitw. Ym 1886, roeddynt
yn ennill rhwng 3s 6d a 5s 0d yr wythnos ac roedd tlodi
a newyn yn hynod gyffredin eto i gyd, roedd cyfranddeiliaid
Glofa Lady Windsor yn cymryd 50% o'r elw. Codwyd tai mawr
crand i'r rheolwyr, Tynywern 1888 a Glynderwen 1904.
Roedd yr amodau gwaith dan ddaear yn wael, gyda'r glowyr
yn gorfod defnyddio lampau olew hyd yn oed ar ôl
streic 1921. Rhaid aros tan 1930 cyn i berchnogion y lofa
ystyried amodau gwaith a lles eu gweithwyr ac ym 1931,
Glofa Lady Windsor oedd un o'r cyntaf yng Nghymru i gynnig
baddondai pen pwll ac ystafell cymorth cyntaf/meddygol.
Roedd croeso hefyd i'r trigolion lleol ddefnyddio'r baddonau
am dâl bychan (3d i 6d).
Cafodd y diwydiant glo ei wladoli ar 1 Ionawr 1947 ac
erbyn y 1950au roedd mwy a mwy o bobl yn gweithio yn Ystâd
Fusnes Trefforest gerllaw gan greu prinder gweithwyr ym
meysydd glo'r De. Er i'r rheolwyr gynnig gwaith i bobl
heb ddinasyddiaeth o wahanol rannau o Ewrop, gyda lwfansau
arbennig, doedd hyd yn oed hyn ddim yn ddigon i fodloni
anghenion llafur y pyllau. Erbyn 1956, roedd angen cloddio'n
ddyfnach islaw Glofa Lady Windsor gan fod y gweithwyr wedi
cloddio bron i holl lo'r wythïen uchaf.
Roedd undod traddodiadol y glowyr dan straen, a phrofwyd
eu hamynedd i'r eithaf wrth i lowyr golli swyddi mewn pyllau
bach ledled Prydain a chael cynnig gwaith yn Ynys-y-bwl.
Adeiladwyd tai parod i'r glowyr a'u teuluoedd ym Muarth-y-capel,
ac ar 10 Ebrill 1964, ymgartrefodd sawl teulu o Swydd Durham
yn Ynys-y-bwl.
Daeth y gwaith i ben am ddeufis ym 1972 oherwydd streic,
ond ym 1973, fe lansiodd Bwrdd Glo Prydain Plan for Coal'
gan neilltuo dros £100,000,000 ar gyfer meysydd glo'r
De yn unig. Ym 1974, cysylltwyd Glofa Lady Windsor â Glofa
Abercynon trwy ddau dwnnel ochr yn ochr â'i gilydd
o dan y ddaear - un twnnel 1,000 metr a'r llall bron i filltir
o hyd. Oherwydd yr uniad hwn, dywedodd y Bwrdd Glo (NCB)
ym 1977 mai Glofa Lady Windsor/Abercynon oedd yr un lleiaf
tebygol o gau yng Nghymru. Ond nid felly y bu. Bu streic
12 mis o hyd ym 1984, a chaeodd Glofa Lady Windsor/Abercynon
am y tro olaf ym 1988 - gyda gwerth 25 mlynedd o lo ar ôl
heb ei gloddio.